Gall hyd yn oed yr offeiriad deimlo'r caddug yn cau amdano wrth iddo weinyddu'r offeren.
Nos Sadwrn, Rhagfyr 23 ar S4C dangosir Nadolig y Paith. Rhaglen gan Teliesyn yn dangos sut y daeth aelodau gwahanol gorau gannoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ynghyd i ganu offeren go arbennig.
Ar y Sul, cefais fy hun tu fewn i'r eglwys gadeiriol yn mwynhaur offeren ac yn bwyta ac yn yfed rhywbeth llawer mwy sylweddol.
Yr adrannau yn y traethawd yn delio â'r Purdan a'r Offeren a gynhyrfodd dynion y mudiad a dychryn ei gefnogwyr fwyaf.
Yno y mae eglwys y plwyf ers yn fore iawn; hon oedd canolfan gweithgareddau'r Festri am ganrifoedd, a gweinyddu'r offeren.
Archwiliodd yr erthyglau yn fanwl fel pe baent yn ddogfennau cyfreithiol, a phrofodd i'w fodlonrwydd ei hun nad oeddent yn condemnio na'r Purdan nac Aberth yr Offeren, eithr yn unig camddefnydd ohonynt gan Eglwys Rufain.
Fel "trefniant gwerinol" o offeren y Nadolig y disgrifiodd un aelod o'r côr ef i mi.
Pwysleisid yr angen i gyffesu a gwrando Offeren yn rheolaidd.
Flwyddyn yn ddiweddarach, aeth gweinidog o Bontardawe, Gareth Morgan Jones, i San Salvador i gymryd rhan mewn offeren arbennig i goffa/ u'r merthyron.
Roedd ffurf yr offeren yn wahanol ac roedd yr offeiriaid yn rhydd i briodi pe dymunent.
Pabyddes oedd ei fam ac ai Alun i'r offeren gyda hi; llongwr oedd y tad a Methodist Calfinaidd ac ai'r hogyn i'r capel gydag ef pan fyddai adref o'r mor.
yr offeren i osodiad gan William Mathias, a chor y Caplandy yn arwain y canu.
'Requiem' Brahms ac Offeren yn B Leiaf Bach yn cael eu canu.
Ar fore o Fai gwelodd y bardd brydferthwch naturiol ein hamgylchedd a chyfeiriwyd yn hyfryd at 'emrallt astud y gwellt a'r lloi llonydd'. O weld 'ganhwyllbren y gastanwydden' cafwyd darlun rhyfeddol o lestri'r offeren yn ymbaratoi ar gyfer addoliad.
Yr apêl honno sy'n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o'r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.
Ac wrth bregethu twymodd iddi ac ymosod yn hallt ar bethau fel gwisgoedd defodol, yr offeren, a llawer o'r arferion eglwysig.