Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

offeryn

offeryn

Bum mewn cyfarfodydd pregethu yno amryw o weithiau yn gwrando ar rai o'r "Hoelion Wyth" a'r capel yn orlawn, a chanu bendigedig er nad oedd offeryn yno'r pryd hynny.

Mae David Griffiths wedi dadlau bod yr Adroddiadau wedi codi nid yn unig yn ateb i gais Cymro o aelod seneddol dros Coventry, William Williams, ond hefyd o fwriadau tu mewn i'r Llywodraeth ei hun, ac nad oedd Williams yn ddim byd ond offeryn yn eu dwylo.

Dyma'r offeryn sy'n cael ei ddefnyddio i'n hasio'n dynnach wrth Loegr.

Arweinir ni i amau a yw'r nofelydd o ddifri am ­ Harri fod yn offeryn propaganda o blaid y gymdeithas ddi-ddosbarth.

Rhaid i'r Cynulliad dderbyn ei rym a'i awdurdod o'r gymuned ac oddi wrth ffynhonellau eraill o'r tu allan i'r Cynulliad os yw am fod yn offeryn llywodraethol effeithiol.

Fel y dywedodd Saunders Lewis ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, y mae Saeson yn bencampwyr ar ddefnyddio eu hiaith fel offeryn gwleidyddol.

I'r llywodraethwyr o bob gradd offeryn gwleidyddol oedd iaith.

Nid oedd Ap Vychan o blaid cael offeryn chwaith ac ar ôl pasio'r penderfyniad i gael un, ei sylw wrth y gynulleidfa oedd, "Hwyrach y byddai gystal ichwi fynd ymlaen i brynu mwnci!" Ond er gwaethaf pryderon y beirniaid, dal i fynd o nerth i nerth yr oedd y canu, gyda'r côr yn cipio'r gwobrau yn yr eisteddfodau.

Daeth i mewn â llygredigaeth a meidroldeb i amgylchedd dyn; ond golygai hefyd i'r union offeryn a allai arwain y cyfanfyd i gyrraedd ei gyflawnder a gwireddu ei botensial dwyfol, i'r offeryn hwnnw, dyn, fradychu ymddiriedaeth Duw gan fethu â chyflawni ei wasanaeth offeiriadol ar ran y byd.

yn raddol, wrth gwrs, datblygwyd yr offeryn i fod yn llawer iawn mwy dibynadwy, trwy ddoniau george phelps, i raddau helaeth, ond yn y dyddiau cynnar, hawdd iawn fyddai credu fod agwedd geidwadol y peirianwyr seisnig yn ei gwneud yn anodd iddynt dderbyn yr agwedd nodweddiadol americanaidd, sef fod yna ddatrys ar bob problem.