Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofid

ofid

Y mae miloedd yno yn ddigartref au gwlad yn fôr o ofid a gwae.

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

Yr hyn syn ofid, yw faint o dalent sydd yna yn rhedeg yn wyllt yn y strydoedd cefn, yn y priffyrdd ar caeau.

Ei ofid pennaf oedd nad ymadawodd â Hong Kong mewn pryd cyn i'r Nipon ymosod.

I lan na thref nid arwain ddim, Ond hynny nid yw ofid im.

Mater o ofid hefyd yw crebachiad yr iaith yn yr hyn a ystyrir yn gadarnleoedd ieithyddol.

Gwrthododd hithau ddianc gyda Maelon a thorrodd ei chalon o ofid serch.

Wedi'r cwbwl, onid RS Thomas yw'r llenor mwyaf yng Nghymru heddiw, a Saesneg, er mawr ofid iddo, yw ei gyfrwng ef.

Gwyddai Ieuan Gwynedd fod nifer o offeiriaid eglwysig yn cribo i lawes Lingen, Symons a Johnson, ac er ei fod yn fawr ei ofid yn sgil marwolaeth ei wraig a'i fab, aeth ati i gasglu ystadegau ynglŷn ag enwadau crefyddol yr ardaloedd glofaol.

Nid un wrthrychol, gytbwys, ond un am agwedd ar fywyd yn yr Almaen sy'n peri mwy a mwy o ofid imi.

Boddwyd nifer helaeth o ysgolion Ceredigion gan y llif hwn, a'r athrawon o ganlyniad yn methu cymathu cymaint o blant di-Gymraeg - ac yn wir, wrth geisio, yn aml iawn (a hynny er mawr ofid iddynt) yn esgeuluso'r Cymry.

Ond er mawr ofid a thristwch i ni cawsom y ddedfryd ofnadwy nad oedd gwella iddi.

'Roedd Watcyn felly'n gefnder i Ben Davies a'r Pia Bach, a phrofodd y berthynas ofid iddynt fwy nag unwaith.

Buasai ei ofid yn fwy pe gwybuasai mai ei fab Ernest a gynllwynasai i ddwyn oddi amgylch y ddamwain.

Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.

Ond os oedd na bleser wrth fynd ati i ddarllen am gymeriad bach newydd yng nghreadigaeth hudolus Angharad Tomos mi roedd na ofid hefyd.