Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofidio

ofidio

Mae Morgan Pelagiws, y mynach o'r bumed ganrif, wedi'n perswadio'n ddidrafferth y gallwn fyw heb addoli a heb ofidio am bechod na cheisio gras a maddeuant.

Yn sicr, nid oedd dim ym mhryddest fuddugol Glanffrwd ar 'Y Gymraeg' i beri i'r Times ofidio.

Bodlonodd fyw yn un o dlodion y ddaear, gan alaru neu ofidio am gyflwr Cymru a'r Eglwys yn ein glwad.

Galaru'r golled i Gymru drwy farwolaeth Llywelyn saith gan mlynedd ynghynt a wnaeth Gerallt Lloyd Owen, gan ofidio ar yr un pryd am amharodrwydd Cymry ei ddydd i dderbyn unrhyw ffurf ar hunan-lywodraeth.

Pryddest grefftus ac ynddi lawer o ofidio fod y trefi'n annog y gwladwyr mewn cyfnod o ddirwasgiad.

Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.