Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofnadwy

ofnadwy

Neu'r troeon hynny y byddai hi'n meddwi'n ddireol a chymryd pob cyfle i ffraeo gyda ni, ein galw ni'n bethau ofnadwy, a'n cyhuddo ni o bob erchylltra.

Roedd gwres y diwrnod wedi fy lladd yn lân ac roeddwn i'n flinedig ofnadwy .

meddwl rydw i am greulondeb rhai o'r pabau ac mae gen i ryw obsesiwn ynglŷn â'r chwilys, yna'r brwydro ofnadwy rhwng catholigion a phrotestaniaid, a'r creulondeb a'r poenydio a'r erledigaeth ar y ddwy ochr, a'r holl wrachod a gafodd eu llosgi, a ffanatigiaeth jonestown a arweiniodd naw cant o bobl i gyflawni hunanladdiad, heb sôn am y seiliau crefyddol y tu ôl i'r holocaust hynny yw fod yn cael ei hategu gan y celwydd taw'r iddewon groeshoeliodd crist, a'r defnydd o ddyfyniadau ysgrythurol i gyfiawnhau dienyddio gwrywgydwyr ).

Mae hi yn sicr yn stori o lwyddiant o dan amgylchiadau sy'n swnio'n ofnadwy.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Doedd e ddim yn sylw doeth, mae'n wir, ond byddai ei ynganu wedi rhoi pleser ofnadwy iddo = dros dro.

Fe ddylen nhw, o bawb, wybod pa mor ofnadwy o annheg yw hi i ymweld ag anwiredd plant ar eu tadau.

Maen nhw'n ofnadwy o gryf ac yn ddeallus iawn, fel chimpanzees ar y Ddaear, er faswn i ddim yn lecio cael te parti hefo nhw.

Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn ofnadwy; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod.

Roedd y llwybr yn ofnadwy ­ dau gam ymlaen a llithro thri yn ôl.

Doedd - - ddim yn mesur tendr ar sail arian yn unig oni bai fod y pris yn ofnadwy o isel.

Gweithred ddidrugaredd a oedd yn ganlyniad system economaidd a chymdeithasol ofnadwy o anghyfiawn.

Ond roedd y tywydd yn ofnadwy, a roedd lefel y sgiliau yn ofnadwy, hefyd.

Roedd hwn yn berfformiad ofnadwy oedd yn sgrechian am ronyn o aeddfedrwydd a safon i gael gwared ar dîm ddylse fod wedi cael coten.

Y mae wedi cael ei blesio yn ofnadwy hefo'r cynhyrchiad ac wedi mwynhau gweld y ddrama yn datblygu o'r papur i'r llwyfan.

Ond roedd hi'n anodd ofnadwy, gan nad oedden nhw erioed wedi bod yn eu tŷ eu hunain dros y Nadolig o'r blaen a doedd Carol erioed wedi gorfod prynu'r nwyddau Nadolig.

Fe fyddai ef wedi cael mwstwr ofnadwy, wrth gwrs, ond roedd yn gyfarwydd a hynny ac ni fyddai'i fam byth yn ddig wrtho yn hir.

Roedd yr Indiaid yn ddiolchgar i gael mynd ati hi i droi allan mwy o flawd ynghanol yr holl wres ofnadwy.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Yn yr Almaen cosbid y sawl a dorai dderwen i lawr mewn ffordd ofnadwy.

Roedd pêl-droed Llanelli'n gyflym ac effeithiol tra roedd Merthyr yn edrych yn ofnadwy yn yr ail hanner.

Cysgu'r noson mewn pabell, a hithau'n noson stormus ofnadwy a niwl a gwynt a glaw.

Amrywia'r actio rhwng yr ofnadwy a'r dychrynllyd gyda'r actorion yn cyhoeddi eu llinellau yn hytrach na'u siarad.

ac, fel mater o ffaith, os cyfaddefir bod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlon yna fe ganiateir popeth, oblegid onid yw'n ofnadwy o beth fod pedwar ar bymtheg allan o ugain o'r rhyfeloedd mwyaf erchyll sydd wedi gorlifo'r ddaear â gwaed wedi cael eu hymladd i'r pwrpas hwnnw, neu o leiaf fel esgus am hynny ?

Beth bynnag am hynny, os gwir ei fod yn cael ei gadw mewn amlen frown, maen amlwg ei bod hefyd yn amlen fechan ofnadwy.

Falch ofnadwy.

'Mae'r anaf i Jason Smith yn anffodus ofnadwy.

`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.

"Mi ddaru ni gychwyn yn ôl yn araf hefo'n gilydd," ebe Alphonse, "ond yr oeddwn mewn poen ofnadwy.

Aethai diwrnod cyfan heibio ers iddo gael ei ffics diwetha a doedd Howard ddim wedi teimlo mor ofnadwy yn ei fywyd.

"Pam oedd golwg mor ofnadwy ar 'nhad, gyda'i jersi yn wlyb ac yn dyllau i gyd?

Cododd yr "o' yna'i wrychyn = yn ofnadwy!

Pan geisiai gau ei lygaid a chysgu, gwelai weledigaethau ofnadwy.

Anghofia'i byth y teimlad ofnadwy o ofn oedd arnaf wrth weld yr anifeiliaid gwyllt, er eu bod mewn cewyll, a gweld dyn yn mynd i fewn at y llewod, a hwythau yn gwneud yn ol gorchymyn y "trainer", a chlywed y llew yn rhuo.

"Ond sut oedd Wiliam cyn cychwyn?" "'Rydw i'n credu i fod o dest â'i dymchwel hi, ond i fod o'n tri%o dal." "Mi gwêl i dad o hi'n chwith ar i ôl o yn y chwarel." "O, ofnadwy."

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Ond sut brofiad go iawn ydi byw fel dinesydd cyffredin yn yr LA ofnadwy 'ma?

Yn y cyfamser mae pethau ofnadwy'n digwydd i'r corff.

Byddai ei golli'n ofnadwy.

Rwyt yn dy longyfarch dy hun am fod mor hirben â'i gael i'th arwain; fe fyddi allan o'r goedwig ofnadwy yma ymhen dim amser.

Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.

'Coch ofnadwy!

Sylwodd Anna fod William wedi cochi'n ofnadwy, nes bod y plorynnod ar ei dalcen yn wyn ar wyneb y croen.

Roedd fy nghoesau'n brifo'n ofnadwy ar ol ail afael yn y sgio, ac yn crynu bob tro y safwn yn llonydd.

Ac wrth gwrs, roedd golwg ofnadwy ar stafell fwyta'r palas ond buan iawn y daeth y lle i drefn hefo dŵr a sebon a llyfiad o baent.

Y noson honno, roedd y cinio'n y gwesty yn ofnadwy a gan nad oedd yr apres sgio yn rhyw ysbrydoledig iawn - gwely'n gynnar amdani i drio gwneud i fyny am ddiffyg cwsg y noson gynt.

Felly, dydy hi ddim yn ofnadwy o bell i chi, 'nagydy?

Y noson yma roedden nhw wedi dod adre fel arfer; roedd o wedi agor y drws efo goriad fel arfer, ac roedd y ddau wedi cerdded i mewn i'r tŷ i glywed y sŵn malu a thorri mwyaf ofnadwy yn dod o'r gegin.

Erbyn hyn yr oedd y gwynt yn chwythu oddi ar y tir ond bore ddydd Llun, er mawr syndod iddynt, nid oedd y tir ond pum milltir i ffwrdd a glaniwyd wrth ymyl goleudy Pembroke, Port Stanley, ar ôl wythnos ofnadwy yn y cwch.

meddai Rhodri, "A chwarae teg iddyn nhw, mae'r ddwy yn gall !" Cytunai'r bechgyn fod hynny'n beth ofnadwy.

Stori arall oedd fod Mici Mows isel ei ben, yn cael colledion ofnadwy yn Disneyland Paris.

Mae'n newyddion ofnadwy yma.

Ceisiodd Carol gysuro Guto a sicrhau Owain fod popeth yn iawn; yn wir, roedd hi'n falch o fedru ymateb i'w gofynion syml er mwyn hoelio ei meddwl ar y presennol ac ar y fan a'r lle, a thrwy hynny gadw'r cwestiynau ofnadwy draw.

Rwyn teimlo bod dod a chwaraewyr mewn o wledydd cynnes i wlad lle maen oer ofnadwy yn y gaeaf ddim yn beth da, meddai.

Tua diwedd y pnawn o sgio a choesau pawb yn brifo'n ofnadwy, meddai Patrick.

Peth ofnadwy yw cenedlaetholdeb onide?

Peth ofnadwy yw bod yn anwaraidd, yntê, ond wrth gwrs mae tylwyth y Buganda yn adnabyddus am ei ddulliau modern ynghanol cyfandir heb ei lwyr wareiddio.

"'Dach chi'n dal ofnadwy," meddai.

Yn ôl sylwebydd BBC Radio Cymru, Edward Bevan, roedd safon y dyfarnu yn ofnadwy.

Teimlai'n ofnadwy o benysgafn.

Gwnaeth y ddwy hwylbren lanast ofnadwy o gwmpas y dec, llwyddwyd i gael un ohonynt dros y bylwarc ac i'r môr ond cawsant drafferth gyda'r llall cyn ei rhwymo unwaith eto.

Er hynny, cafodd y Cymry gychwyn ofnadwy gan ildio cais yn y funud gynta.

Ond er mawr ofid a thristwch i ni cawsom y ddedfryd ofnadwy nad oedd gwella iddi.

'Rydw i wedi'i glywed o lawer gwaith o'r blaen pan oeddwn yn gweini ar ewythr i mi cyn iddo fo groesi afon Angau!" 'Roeddwn mewn penbleth ofnadwy.

Ildion nhw bedair gôl ofnadwy.

Yr ail broblem ydi rhywbeth sy'n digwydd unwaith y flwyddyn yn unig, a diolch i'r drefn am hynny oherwydd mae'n beth ofnadwy iawn, iawn.

"O, mae peth ofnadwy wedi digwydd," meddai hithau.

Ychydig ddyddiau cyn mynd, daeth newyddion am ddamwain ofnadwy, mewn lle o'r enw Chernobyl.

y tu allan i'r dref roedd rhywbeth ofnadwy yn digwydd.

Roedd wedi cael ei ddal gan y cipar yn potsio salmon ac am gael ei ddwyn o flaen ei well, rhywbeth ofnadwy pryd hynny.

"Y...nid chi 'dy'r dyn diarth sydd wedi prynu'r Nefoedd 'ma?" "Ia...gwaetha'r modd." "Falch ofnadwy o'ch cyfarfod chi," a gwthiodd Elis Robaitsh ei law fawr drwy ffenestr y car i J.R gael ei hysgwyd hi.

Yr oeddwn yn siomedig ofnadwy gweld y Llythyr.

Pan wnaethom ni gyrraedd Awstralia ym mis Chwefror 1968 roedd y tywydd yn ofnadwy o boeth - dros 100F ac ymhen tri diwrnod yr oeddwn wedi llosgi'n ofnadwy.

Mae rhan helaeth o'r adar fydd yn y wlad yma yn anelu am arfordir gorllewinol Ffrainc, ac yna yn teithio i lawr trwy Sbaen ac i ogledd Affrica cyn wynebu'r daith ofnadwy ar draws diffeithwch y Sahara.

Trwy wneud hyn, wrth gwrs, roeddynt yn mentro i fyd o eira a rhewfryniau, ac yn nyddiaduron teithwyr y cyfnod cawn lu o gyfeiriadau at y cyffro ofnadwy yn eu mysg wrth edrych allan a gweld eu llongau yng nghanol cylch oi rewfryniau uchel.

'Ond roedd y reffarî yn ofnadwy.

Diolch i fedr a dewrder Bob Kelly achubwyd pobl Farnham rhag trychineb ofnadwy.

Roedd Ysbryd yr Hen Reithordy wedi diflannu eisoes i ddechrau ar ei waith ofnadwy o ddychryn Modryb Lanaf Lerpwl.

Cafodd lan druan gêm ofnadwy yn Iwerddon ac fe gofiaf yn iawn weld y capten Yorath yn sgrechian arno am fethu gwneud rhywbeth yn iawn.

Roedd yr hyn wnaethon nhw yn gampus achos o'n i'n erfyn sgôr ofnadwy yn erbyn Cymru.

Ac o feddwl eto, byddai wedi bod yn beth ofnadwy petai gwyn elltydd Dover wedi eu goresgyn gan luoedd atgas yr Elmyn.

Mi roedd siopau'n agor yno ac mi roedd pobl yn mynd i barti%on, yn priodi; mi roedd yna briodas yn ein gwesty ni ac mi roedden nhw'n dal i wisgo fyny, hyd yn oed yn y llwch ofnadwy.

Sylweddolodd hyn, ac aeth yn ôl at 'i ffrindiau, y disgyblion, a dw i'n siwr fod Tomos, er gwaetha'r sioc ofnadwy o golli'r Iesu, 'i fod am glywed gan y disgyblion eu bod nhw wedi gweld yr Iesu atgyfodedig.

'Roeddwn i'n teithio ar long drwy fôr stormus ofnadwy .

Bu'n ddiwrnod ofnadwy o brysur, rwy'n siwr i mi gyfweld tua 30 o bobol - yn feirniaid, bardd y Gadair a chystadleuwyr.

Dyna pam y cafodd y geiriau hyn eu hysgrifennu yma, lle bu cymaint o blant yn llefain am eu rhieni, a lle heddiw y saif ysbyty mwyaf modern America Ladin, fel carreg fedd i'r gyfundrefn ofnadwy honno.

Creadur penderfynol yw Pedr, fe fyn fynd ymlaen.' 'Pedr,' meddai Ioan, 'y mae hi'n dywydd ofnadwy.' 'Wel, ydyw,' meddai Pedr, a lluwch ton yn mynd dros ei wyneb; 'Ydyw, mae hi,' meddai.

Roeddwn i'n bersonol yn falch fy mod i wedi gweld tipyn ar Lanfairfechan, gan fod yr hen ddynion yn y chwarel yn dweud pethau mor ofnadwy am y lle a'i bobl.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

Erbyn cyrraedd y Foryd, mi oeddan ni wedi blino'n ofnadwy, ond chym'ron ni ddim arnon o gwbl er mwyn i ni gael mynd i nofio ar ein hunion.

Roedd hi'n falch ofnadwy o gymorth Mr Puw a hefyd yn falch fod Mair yn gwmni iddi.

Dyna ichi gosb ofnadwy ar Frenhinwr pybyr, a gūr a fu'n gweiddi am roi cryman am wddw Cromwell.

'Byddai hynny'n ofnadwy,' meddai.

Weithiau, bydd rhywbeth yn digwydd i darfu ar y cytgord hwn, weithiau gyda chanlyniadau ofnadwy - fel y gwelwn yn nes ymlaen yn yr adran hon.

Parhau mae rhediad ofnadwy tîm dan 21 Cymru.

Dod yn afrwydd ac anodd ofnadwy y mae i eraill.

Ond, wrth gwrs, cyffredinoli'n ofnadwy ydyw sôn am gerddoriaeth fel y cyfryw.

Roedd blas arbennig ar ddathliadau'r nos Calan - er i'w threulio efo llond ystafell o Saeson chwil ofnadwy!

Er taw ychydig iawn a wyddwn i - a'r Gorllewin yn gyffredinol - am Arlywydd Ariannin, Carlos Menem, roedd hi'n hysbys i bawb fod ei wlad mewn trafferthion ofnadwy.

'Yn ofnadwy'.