Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.
Yn sydyn trodd y gôl-geidwad dewr yn hogyn bach ofnus iawn.
Wedyn clywsom waedd, ac yna distawrwydd, ac wedyn sŵn mynd a dod, a ninnau'n ofnus yn cuddio dan y gorchuddion.
Teimlai hwnnw'n ofnus oherwydd gwyddai mai neges annerbyniol iawn oedd ganddo i'w rhoi, ond dywedai wrtho'i hun mai nid ei fai e oedd fod llawer o'r ceffylau yn y fintai naill ai wedi, neu ar fin colli eu pedolau.
Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!
Fel y deuai'n nes, clywai ddau o'r cŵn yn udo'n rhyfedd ac yn ofnus.
Nid disgybl mwy ofnus o'r môr ac o'r nos na'i gilydd a'i gwelodd, ond pawb fel ei gilydd, a gwaeddasant mewn dychryn gyda'i gilydd.
Maen cychwyn trwy grybwyll grwpiau sydd wedi cael dylanwad mawr ar nifer o fandiau, ond syn cael prin ddim cydnabyddiaeth am hynny - Yr Alarm, Pooh Sticks, Crumblowers, Plant Bach Ofnus ac yn y blaen.
Dyden ni ddim eisiau rhyw bansi gwan a thila ac ofnus yn y criw yma, wyt ti'n deall?
Fe'i cefnogir gan haid o wleidyddion, cyfreithwyr, barnwyr, academyddion a dynion busnes, pob un yn cuddio tu ôl i'r honiad nad ydynt yn gwneud dim ond eu dyletswydd, gwy^r a gwragedd sy'n rhy ofnus i olchi'r piso o'u dillad isaf.
'Ysst, y lembo dwl,' hisiodd Meic yn ofnus.
Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.
Ond hyd heddiw yr wyf yn ei theimlo'n anfantais na bawn wedi cael cwrs coleg cyflawn mewn athroniaeth oherwydd yr wyf yn ofnus iawn o hyd wrth drafod syniadau athronyddol...
Mae'r plant yn ofnus am nad ydyn nhw'n deall beth sy'n digwydd, a chaiff rhai eu gwrthod am eu bod yn rhy dal i fynd o dan y bwâu.
Ond mwy rhyfeddod yw'r bersonoliaeth gymhleth -þ ddireidus, ddifrif, ofnus, feiddgar, fyfyriol, weithgar - a dreuliodd ddyddiau a nosau ei blynyddoedd "er mwyn Cymru%.
Bu'r Cwrdiaid eu hunain yn rhy ofnus i wrthwynebu'r cynllun yn agored oherwydd ei sefyllfa wan yn dilyn cipio Abdullah Öcelan a'i roi ar brawf. Hasankeyf
Y mae distawrwydd y carchar yn debyg i ddistawrwydd mynwent ar ganol nos, y distawrwydd ofnus annaearol hwnnw y gellwch wrando arno a'i glywed; y distawrwydd dirgel, dyrys sydd yn eich amgylchu ac yn araf y eich gorthrechu; yn myned drwy dyllau'r croen i'r corff, yn cerdded drwy'r gwaed i'r galon ac i'r ymennydd.
Cododd y ddau'n ofnus.
Gwaith peryglus oedd hwn, a gwaith a fedrai fagu ysbryd ofnus a gwyliadwrus yn y rhai oedd yn "smyglo%.
Amneidiodd yr hen ŵr, fel pe bae ei wddf yn ofnus o bwysau ei ben.
Safodd gwraig ganol oed o'm blaen gyda golwg bryderus ac ofnus iawn ar ei hwyneb.
'Tudur,' gwaeddodd arei ôl yn wyllt gan edrych o'i amgylch yn ofnus.
Ond erbyn cyrraedd y fan dywededig - "No chwe - chiw chol sei dawn chofyr dder!" - Er i mi edrych yn ofnus a chrefu "Por favor, senor" Gorfu i'r dosbarth fynd i lawr y llethr o rew - son am grynu, dychryn, chwysu'n oer a phoeth ac arswydo.
Yr ydym yn llesg, yn ofnus ac yn ddi-hyder.
Ond nis gwahoddwyd i'r cysegr, a safodd yno'n hir ac ansicr gan syllu'n ofnus ar y gair 'Golygydd' o'i flaen.
Yr oedd y gwaith yn newydd iddo, a theimlai yn ofnus a swil yng nghanol y fath gwmni.
Gellir dehongli Ifans yr Wythdegau a'r Punk (Dafydd Emyr) fel rhai yn cael eu rheoli gan agweddau caled masnachol, a'r ddau yr un mor ofnus a chythryblus eu meddwl ac ar drugaredd newidiadau cymdeithasol.
Symudodd Gethin ymlaen ychydig yn ofnus a chladdu ei ben yn saff dan gesail ei ffrind.
"Ydach chi wedi trafod hyn efo Breiddyn?" gofynnais, braidd yn ofnus yn frysiog.