Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofnwn

ofnwn

Yn sicr fe ofnwn Talfan.

Ofnwn iddo godi ac ymosod arnaf, ac y byddai hi ar ben arnaf wedyn.

Parthed Huw Huws, a oedd yn fwytawr harti a naturiol, ofnwn fod trychineb yn anocheladwy.

Daeth yn amser i ni gael ein gollwng i fynd allan i chwarae, ac ofnwn gyfarfod yn yr iard â phlant yr ysgol heb athro yn y golwg.

Ni wyddai Miss Hughes ond y nesaf peth i ddim am y busnes, ac ofnwn pan fu farw Abel na wyddai hi ond ychydig am ei amgylchiadau; ac eto yr oedd hi'n fenyw dda ac yn llenwi'r cylch y galwyd hi iddo yn rhagorol.

Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.

Y cwestiwn diwethaf a ofnwn fwyaf, gan nad oedd arnaf awydd rhoi curfa i neb.

Ofnwn fod Rhagluniaeth wedi dweud yn eglur nad oeddwn i fynd i'r coleg, ac os felly ei bod yn dweud ychwaneg sef nad oeddwn i bregethu; oblegid dywedasai Abel wrthyf fwy nag unwaith na ddylai un gŵr ieuanc yn y dyddiau goleuedig hyn feddwl am y weinidogaeth os nad oedd yn penderfynu treulio rhai blynyddoedd yn yr athrofa; a thybiwn y pryd hynny fod yn amhosibl ymron i Abel gyfeiliorni mewn barn.

Nis gwelswn ers tro byd, a lled ofnwn fod rhyw aflwydd wedi ei oddiwes.

Ond erbyn hyn ofnwn fod yr holl drafferth a gymerai ef gyda mi wedi mynd yn ofer, a bod fy holl ymdrechion innau wedi mynd gyda'r gwynt.

Ar y pryd ofnwn fod y rhagolygon wedi eu handwyo.