Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofynion

ofynion

Er gwaethaf ymdrechion carfan o eglwyswyr dylanwadol o dan arweiniad yr Aelod Seneddol, Benjamin Hall, (Llanofer ac Aber-carn), methodd yr Eglwys ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y sefyllfa newydd a gododd yn sgil diwydiannu.

Manteisiodd rhai o'r cystadleuwyr ar ofynion penagored y gystadleuaeth ac anfon cerddi vers libre cynganeddol i'r gystadleuaeth, gan gynnwys y bardd buddugol.

Ond y mae'r Gwaredwr wedi cyflawni holl ofynion cyfiawnder Duw - Ef yw'r annwyl Fab yn yr Hwn y mae'r Tad wedi ei fodloni.

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Argymhelliad Cymdeithas yr Iaith i'r ysgolion hyn yw i gyflawni'r lleiafswm o ofynion statudol fel Byrddau Llywodraethol unigol (e.e cynnal cyfarfod statudol rhieni/llywodraethwyr, cyhoeddi adroddiad blynyddol etc) ac hefyd i drin materion yn ymwneud â disgyblion unigol ar lefel ystod.

Yn y tudalennau a ganlyn, rhoddir manylion dethol am ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pob pwnc er mwyn amlygu pwyntiau penodol yn y canllaw.

Mae'r cwricwlwm yn eang ac yn gytbwys, ac mae'n cwrdd â'r holl ofynion statudol.

Fel hyn, bydd ysgolion yn cadw at ofynion y gyfraith ond hefyd yn datblygu mewn modd cadarnhaol, gan 'ddod rownd' un gofyniad statudol arall eto nas lluniwyd gydag ardaloedd gwledig mewn golwg.

Pwysleisid y rhinwedday hynny a gydnabyddid gan y beirdd yn bwysicaf ac a dderbynnid yn ofynion uchaf y gymdeithas wâr ddisgybledig.

Sawl llenor addawol yng Nghymru a laddodd ei hun neu amharu ar ei wir ddawn trwy ddewis ymateb i'r galwadau hyn yn hytrach nag i ofynion ei grefft?

Ar ben hynny, un ymhlith sawl cyfeillach oedd hon a rhyngddynt yr oeddent yn dechrau hybu cyfnewidiadau yn nhrefn gwasanaethau'r eglwysi a oedd yn groes i ofynion y Llyfr Gweddi Gyffredin.

Mae'n rhaid sicrhau, felly, fod y cyfleoedd a ddarperir yn berthnasol i ofynion y cyhoedd.

Ond, bellach, gyda gwasanaeth cwmnïau fel Easyjet - sydd gyda llaw yn derbyn dros 90% o'r trefniadau dros y we, sef yr ucha' yn y diwydiant - mae rhyddid gan y defnyddiwr i greu pecynnau unigol wedi'u teilwrio'n arbennig i ofynion y teithiwr.

Gall diwinyddion a gwleidyddion da godi eu llygaid tu hwnt i ofynion caeth enwad neu blaid.

Wrth feddwl bod yn rhaid i doddiant addas ymateb i'r holl ofynion hyn, a hynny i gyd ar yr un pryd, ychydig iawn o bosibiliadau sy'n bod ymhlith y cyfansoddion cemegol sy'n wybyddus ar y planedau, y meteorau a'r comedau.

Ar ol yr ymdriniaeth hon o ofynion y toddiant sy'n addas i gynnal bywyd, cesglir mai dwr yw'r unig bosibilrwydd ac mai amgylcheddoedd tebyg i'r system garbon dwr y dylid eu hystyried, sef amgylcheddoedd tebyg i'n Daear ni.

'Doedd y cyflenwad hwnnw ddim yn ddigon bellach ar gyfer holl ofynion y ddinas a mannau cyfagos.

gall natur y dasg neu hyd yn oed ofynion y datganiad ei hun amrywio.

Crai - Ar ddechrau'r 90au gwelwyd Sain yn ymateb i ofynion y Sîn Roc yng Nghymru trwy sefydlu is-label i'r cwmni, yn bennaf ar gyfer cerddoriaeth ifanc y Gymru gyfoes.

ii) bod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain, gan dalu sylw i ofynion y Gymdeithas a'r manylion yn y Côdau Ymarfer/Canllawiau lle bo'n briodol, gan gynnwys gwisgo dillad/cyfarpar gwarchod; iii) bod yn gyfrifol am ddiogelwch pobl eraill (boed y rheiny yn weithwyr cyflogedig neu beidio) trwy beidio â chamddefnyddio unrhyw beth a ddarparwyd er mwyn iechyd a diogelwch neu les, a chydweithredu â'r Gymdeithas er mwyn ei galluogi i gyflawni ei chyfrifoldebau ei hun yn llwyddiannus;

Oherwydd holl ofynion y rhyfel anodd fu mynychu'r Clwb yn ystod dwy flynedd gyntaf ei oes.

Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

Mae llaw dyn yn fwy cyntefig ei ffurf a'i hyblygrwydd na'r un aelod sy'n cyfateb iddi gan un creadur arall, a'r ffaith ei bod felly sy'n ei galluogi i'w haddasu ei hun at wahanol ofynion ac angenrheidiau dyn.