Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ofynnol

ofynnol

O ran darllediadau newyddion, adlewyrchwyd effaith datganoli yn dda drwy gyflwyno rhaglenni newydd, a bellach mae angen dod o hyd i dalent ychwanegol a all ddarparu'r ansawdd o ddadansoddiad ac amgyffrediad angenrheidiol sy'n ofynnol o'r sefyllfa wleidyddol.

Yr oedd yn ofynnol i'r sawl oedd ar y graig fod yn o ystwyth i danio'r fuse a dringo i fyny i ddiogelwch, ac yn ddisymwth dyma'r ergydion yn dechrau mynd allan.

Mae'r cyhyrau wedyn yn troi'n ewynnau, ac mae'n ofynnol deall a dysgu a dilyn eu rhediad hwythau.

Pwysleisir hefyd natur ac addasder y cymorth y mae'n ofynnol i'r ysgolion ei roi gan gynnwys adnoddau addas fel cyfrwng dysgu.

Gan fod i bob rhan ei enw Lladin roedd yn ofynnol ei dysgu a'u cofio i gyd ac mae'r mân esgyrn a geir yn yr arddwrn a'r llaw, yn unig, yn niferus iawn.

CYTUNWYD foddbynnag y byddai'n ofynnol i Gadeirydd y pwyllgor hwnnw fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol.

Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, lle mae'n naturiol ac yn ofynnol i bawb ddysgu'r Saesneg sy'n fyd eang ei defnydd, mae'r rheidrwydd i ddysgu a defnyddio iaith carfan leiafrifol o'r boblogaeth ac iaith sydd wedi ei chyfyngu o ran defnydd i dir Cymru yn dibynnu ar wahanol gymhellion.

Felly mae'n ofynnol i addysg Gymraeg ymateb yn ystyrlon a brwdfrydig i'r dimensiwn galwedigaethol hwn.

Yn gyntaf bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd dderbyn caniatâd cynllunio dros y datblygiad ac wedyn bydd yn gwneud cais am drwydded.

Cafodd y math o ateb annelwig y byddai rhywun yn ei ddisgwyl - y rhoddir ystyriaethau i adnoddau cynhenid cyfoethog Cymru fel pren a llechen ond bod yn ofynnol, wrth gwrs, sicrhau fod y gwariant yn rhesymol ac ati.

O ran darllediadau newyddion, adlewyrchwyd effaith datganoli yn dda drwy gyflwyno rhaglenni newydd, a bellach mae angen dod o hyd i dalent ychwanegol a all ddarparur ansawdd o ddadansoddiad ac amgyffrediad angenrheidiol syn ofynnol o'r sefyllfa wleidyddol.

Cyn y gellir esbonio'r diddordeb hwn, y mae'n ofynnol inni fwrw golwg yn gyntaf ar y modd y datblygodd swyddogaeth gweinidog yn yr ardal ym mlynyddoedd cynnar y ganrif.

O ganlyniad yr oedd yn ofynnol i amryw o bregethwyr gadw fferm neu dyddyn, a gwyddys fod William Evans yr efengylwr o Gwmllynfell yn un o'r amaethwyr mwyaf cysurus yn y gymdogaeth.

Ar ddiwedd y daith honno roedd yn ofynnol i ni wedyn gario un o'n cydfilwyr ar ein hysgwydd am gan llath, yna gwyro ar un pen-glin, a saethu at darged, ac os na lwyddid i gael hanner yr ergydion naill ai i'r canol neu o fewn ffiniau'r magpie' - fel y'i gelwid - rhaid fyddai gwneud y daith unwaith yn rhagor.

Rhaid i ddilysrwydd y data hyn gwrdd â'r safonau sy'n ofynnol gan y rhai mwyaf blaengar ym maes archaeoleg tir; h.y.

Roedd yn ofynnol hefyd i fynychu darlithoedd ar agweddau eraill o'r corff; tebyg i sut mae'r corff yn gweithio; sut mae'r bwyd yn cael ei dreulio a sut mae'r holl aelodau yn cadw'r corff yn fyw.

Cyhoeddodd y bwrdd reolau er dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddo, ond yn ymarferol byddai'n dyrannu tai yn ôl rheolau cwbl wahanol nas hysbysebwyd fel oedd yn ofynnol dan y gyfraith.

Cyn bod unrhyw gorff yn gallu penderfynu ar unrhyw strategaethau, mae'n ofynnol bod yn ymwybodol o'r hinsawdd yn gyffredinol ac o fewn ei ardal.

Y ffigur pwysicaf y mae'n ofynnol inni dderbyn dehongliad Layard ohono, er mwyn gwerthfawrogi ei holl ddamcaniaeth am y chwedl, ydyw Ysbaddaden Bencawr.

Ceir miloedd o achosion bob blwyddyn ac y mae'n ofynnol i bob llawfeddyg dalu miloedd o ddoleri ar gyfer yswiriant camymddygiad er mwyn ei amddiffyn ei hun rhag mynd i drybini ariannol neu hyd yn oed fethdaliad pan fydd un o'i gleifion yn honni iddo gael ei gamdrin, gan ddod ag achos yn ei erbyn.

Bryd hynny mae'n ofynnol i'r gohebydd fod yn arbenigwr ar wneud rhyw fath o jig-so, ac yn bwysicach fyth ei fod yn cael blas ar osod ambell ffaith yma a thraw mewn darlun aneglur cyn bod y darnau i gyd yn disgyn i'w lle yn y cynadleddau terfynol i'r wasg.

Sicrhawyd Esgob Tyddewi y gallai'r dyddiau penodedig o weddi%o fod yn fendithiol, ac er mwyn i'r Eglwys gyflawni ei dyletswydd ym mlynyddoedd y Rhyfel yr oedd yn ofynnol iddi fod yn gwbl argyhoeddedig fod y frwydr yn un yn erbyn galluoedd y tywyllwch.

Cyn mynd ymlaen i drafod y datblygiad hanesyddol, fodd bynnag, mae'n ofynnol yn gyntaf gosod y ddadl o fewn ei chyd-destun theoretaidd, er mwyn gosod allan yn glir y cysyniadau gwaelodol sy'n sail i'r drafodaeth.

Roedd yn ofynnol gwybod a deall pa nerfau a gariai negeseuau i'r ymennydd o wahanol rannau o'r croen.

Anatomeg, fel y nodwyd eisoes, y gelwir y maes sy'n astudiaeth o ffurfiad y corff, ond Ffisioleg y gelwir y maes ynglŷn â sut mae'r corff yn gweithio ac fel sail addysgol i bob darpar feddyg mae'n ofynnol iddo ddod i adnabod gwedd a gweithgaredd y corff dynol yn llwyr.

Yno, byddai'n ofynnol i ni gael dogfen arbennig er mwyn croesi pont i gyfarfod â'r gwrthryfelwyr yr ochr draw.