Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ogoniannau

ogoniannau

Mewn sawl ffordd, diwylliant dirgel yw'r diwylliant Cymraeg ac y mae'i ogoniannau yn anhysbys hyd yn oed i'r Cymry hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg, fel y gall y Cymry Cymraeg anrhydeddu Cymro enwog na fyddai gan y Saeson sy'n byw yn yr un stryd a hwy mo'r syniad lleiaf pwy ydyw.

Er hyn, yr oedd y dyneiddwyr yn sicr yn ymdeimlo â bygythiad, ac yn wyneb hynny, yr oedd angen pwysleisio fwyfwy ogoniannau'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Brytanaidd, ynghyd, wrth gwrs, a lladd ar y rhai oedd yn bradychu'r gogoniannau hyn drwy eu 'gollwng dros gof', a defnyddio ymadrodd Gruffydd Robert.

Ac er mai cenedl sy'n dioddef brad ac ymosod arni yw cenedl y Brytaniaid, eto ceir digon o ogoniannau Brytanaidd yn yr hanes i swcro balchder y Cymry.