Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ohebydd

ohebydd

"...?" oedd y cwestiwn a daflwyd ato un tro gan ryw ohebydd neu'i gilydd.

Oherwydd natur y gwaith, arferir derbyn yn ddigwestiwn air gohebwyr y papurau lleol neu'r newyddiadurwyr sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, ond y gwir yw nad oes raid i ohebydd feddu ar lawer o ddychymyg i greu ei stori%au ei hun pe bai newyddion yn brin !

Ac o dro i dro, bydd yn rhaid rhoi cerydd i ohebydd swrth am fod yn hwyrfrydig i anfon stori oedd yn tarddu yn union ar garreg ei ddrws.

Gall camerâu teledu wneud llawer o'r gwaith disgrifiadol erbyn hyn ond mae lluniau mud, heb eu dethol a'u pecynnu gan ohebydd, yn rhyfeddol o ddi-ystyr.

Temtasiwn i ohebydd yn crafu am ei fara menyn fyddai defnyddio'r hen dric o lunio stori negyddol wedi ei seilio ar wadiad ffaith neu honiad dychmygol.

Roedd Ann Clwyd yn benderfynol o weld beth yn union oedd yn digwydd i'r Kurdiaid, ac roedd yn awyddus i ohebydd o ITN a minnau gyd-deithio â hi.

Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.

Ac yna â ymlaen i fanylu ar bwnc yr iaith, gan ateb chwe chwestiwn a ofynnodd ei ohebydd, gwr o Wrecsam,

Nid i gario bwyd yr es i yno er hynny - fwy nag unrhyw ohebydd arall.

Fel llawer i ohebydd tramor arall, roedd wedi digwydd cyrraedd gwlad ar adeg dyngedfennol.

Tynnu sgwrs yn yr hwyr gyda gwr a aned yn Hwngari Andrew Margrave, cyn-ohebydd i'r News Chronicle, a chyfnewid atgofion am Bwdapest ac am bobl yno.

Bu yn ohebydd wythnosol i'r North Wales Chronicle ym Mangor, a chai Llanfairfechan a HS le amlwg ynddo.