Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oleuni

oleuni

Weithiau mae'n edrych fel rhidyll symudol anferth o oleuni, fel yn 'Y Gogarth o Fangor Uchaf', lle mae'r haul yn llithro'n esmwyth trwy orchudd tenau o gymylau i oleuo'r môr.

Hyd heddiw byddaf yn synnu gweld cymaint o oleuni yma yn y nos.

Mae yma i ddangos rhinweddau'r Hwn a'i galwodd o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni Ef ei Hun.

Nid rhyfedd i hynafiaethwyr megis John Jones, deon Bangor, a Humphrey Foulkes droi ato am oleuni gan ei ystyried 'the best Antiquary in these parts'.

Maent yn defnyddio goleuni'r haul i wneud eu bwyd ffoto- synthesis yw'r enw ar y broses hon a thyfu tuag at yr haul y mae planhigion, fel y gallant gael cymaint o oleuni ag sydd modd.

Hefyd, drwy gyfyngu cymaint o oleuni mewn lle mor fach, canfyddir fod pwls o oleuni yn byrhau drwy groesi'r laser.

Fe'i dallwyd hi am ennyd gan oleuni'r bore bach yn ffrydio, yn wyrthiol bron, i mewn i'r gegin dywyll.

Mae'r defnydd hwn o wahanol Foddau'r Ferf yn amrywio tôn gyffredinol y Llythur, sy'n gymysg o bendantrwydd y Mynegol ac oferedd y Dibynnol i amwyster y Gorchmynnol sy'n cyfuno'r diffyg amynedd efo'r dyn pengaled pwl ei oleuni a'r parch a'r anwyldeb y mae'n ei haeddu fel unigolyn rhydd a chanddo'r hawl i ddewis.

Pan fydd goleuni'r haul neu oleuni artiffisial yn disgleirio ar ddefnydd didraidd megis y dudalen hon yr ydych chwi'n ei darllen, adlewyrchir y cyfan, bron, o'r goleuni yn ol i'r awyr, sy'n golygu y medrwn ni ei weld.

Fel anghenfil mawr, gyda'i oleuni'n fflachio a'i gorn yn canu rhuodd y lori drwy'r strydoedd.

Nid oedd llewyrch o oleuni i'w weld yn unman wedi nos ac amharai hynny ar bresenoldeb yn yr oedfeuon.

O'r cwmwd aethom dros y bencydd a'r rhosydd yn fintai fechan o blant o bedwar cartref i'r ysgol, lle'r agorwyd inni feysydd a bydoedd newydd o oleuni.

Rhaid wrth oleuni haul a'i wres os am gynnydd, ac y mae'r sawl sy'n gosod ei ddawn o dan lestr yn ei cholli.

Nid ydym wedi cael un Binney i'n dysgu i blygu yn wylaidd syn yn yr olwg ar y 'Goleuni Tragwyddol', nac un Alford i'n galw gyda 'Forward be our watchword' i adael ofn y diffydd, a gweled goreu Duw a dyn yn y dyfodol; ac ni chawsom un Newman i weddio gyda ni am arweiniad yr 'hawddgar oleuni'.

Wrth blannu, mae'r patrwm troed aderyn yn un da i'w ddilyn er mwyn i'r planhigion gael digon o oleuni gan na fyddant yn tyfu yng nghysgod ei gilydd.

Profai hynny na wyddem am oleuni gwyn yr haul yn taro'r prism yn gyntaf.

Oherwydd y rhan bersonol a gymerodd Gwynfor Evans yn yr helyntion hyn, ceir yn fynych oleuni newydd ar yr hyn a ddigwyddodd.

Ella y medri di daflu llafn o oleuni ar beth fel hyn.

Yr oedd Cyngor y Coleg wedi penodi Pwyllgor Amddiffyn rhag Cyrchoedd Awyr o dan gadeiryddiaeth yr Athro Ifor Williams ac aeth hwnnw ati i sicrhau nad oedd yr un llewyrch o oleuni i'w weld trwy ffenestri'r adeiladau.

Dangosir yn y diagram dair enghraifft o alaethau, pob un yn cynnwys yr un faint o oleuni.

Yn anffodus, os oes pellter rhy faith rhwng y trawsyrrydd a'r derbynnydd yn y rhwydwaith ffôn collir gormod o oleuni ar hyd y ffibr ac aiff y neges ar goll.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.

Tydi, a Thydi yn unig, sy'n gallu eu symud o dywyllwch anghrediniaeth i oleuni dy Deyrnas.

Sylwch fel mae'r planhigyn yn tyfu'n unionsyth ac yna'n troi eto tuag at oleuni'r haul.

Troes oleuni rhybudd y lori ymlaen a rhoes ei law ar y corn.

Gweld ei mam yn agor y drws iddo, ac yntau'n camu i mewn i oleuni'r ystafell, yn fersiwn hŷn o Marc.

Gan fod yr ystafell yn dywyll, mae'r gannwyll yn agor led y pen er mwyn gadael cymaint o oleuni ac sydd modd i ddod i mewn.

'Does dim dwywaith nad ydyw'r llyfr yn taflu llawer o oleuni, mewn sawl lliw, ar y chwedl dan sylw; ac, wrth fynd heibio megis, ar lawero weithiau chwedlonol a ffuglenol eraill, o Lyfr Genesis i Un Nos Ola Leuad.

'Edrych dithau am oleuni Duw yn dy feddwl 'Deffro, Deffro, Deffro, a rhodia fel plentyn y dydd, a Derbyn yr annerch yma (oddifry) drwy law dy gymydog'.

Gwneir hyn drwy anfon cyfres o bwlsiau o oleuni o un pen i'r llall o'r ffibr.

Ond heno nid ydwyf yn gweld yn eglur beth ydyw fy nyletswydd, ac nid wyf yn dewis siarad ar y mater.' ' ``Gweddi%a am oleuni, ynte,'' ebe Dafydd, a chododd i fynd adref.

Pan fydd seryddwyr yn edrych trwy delesgop ar Alffa Cen- tawrws, gwelant oleuni a adawodd y seren bedair blynedd yn ol.

Ond roedd ffigur yn ymddangos drwy'r môr o oleuni a oedd yn ymledu o'r fynedfa.

O'r nenfwd uwch eu pennau, o'r waliau o'u cwmpas ac o'r llawr oddi tanynt daeth tonnau gwynion o oleuni llachar.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Y tu allan i dŷ gwyn cymharol ddi-nod yr olwg ar fin yr harbwr roedd ugeiniau ohonom ni'n aros am fymrym o oleuni.

Pan oeddem yn eistedd mewn tywyllwch, gorchmynnaist i oleuni lewyrchu arnom.

Roeddynt yn barod i oddef cerydd am fod yn hwyr gan eu rhieni pe caent rywfaint o oleuni ar y dirgelwch.

"Wedi fy nghyffroi i waelod fy mod, aeth y goleuni allanol yn oleuni mewnol.