Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

olyga

olyga

"Ystyr cyfrifoldeb yn y fan hyn," meddai, "yw awdurdod, a'r hyn a olyga awdurdod i ni yma heddiw yw senedd gartrefol.

Gan bod wyth wythnos wedi mynd ers pan y gall y mwyafrif hau fe olyga hyn bod hanner tunnell yn llai i ddod i mewn yn y cynhaeaf.

A olyga hynny holl gyfalaf llinach y Vaughaniaid neu'n unig yr hyn a enillir o'r tir?

Synhwyrir mai'r hyn a olyga yw nad â chanonau moesol y dylid beirniadu darn o lenyddiaeth, er mae'n siwr yr honnai hefyd na ellir ysgaru llenyddiaeth yn llwyr oddi wrth adrannau eraill bywyd.

Y mae eisoes yn son am Ewropeaeth, ond yr hyn a olyga ydyw safonau y gwledydd Lladin, Ffrainc yn arbennig, ac y mae'n ddiddorol sylwi nad oes gan yr Almaen nac Awstria na'r Iseldiroedd na Sgandinafia ddim lle ym mhatrwm y safonau "Ewropeaidd" hyn.'

Dyna paham bod lleiafrifoedd - ac fe olyga hynny wledydd bychain hefyd y dyddiau hyn - ar hyd y canrifoedd wedi bod yn ddrain yn ystlysau meistri'r byd.

A chan ei bod yn oes o gymaint busnes a chynifer pethau, brinned ac mor lledrithiol yw ein hatgof wedyn am bobl fel, pan glywn ba ddydd fod Hwn a hwn wedi mynd, y cwbl a olyga inni yw fod rhyw ddolen gydiol hwylus â rhyw un o'n perwylion wedi peidio â bod, ac ar unwaith gofynnwn: