Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

olygfa

olygfa

Golygfa anghyffredin oedd a barai i'm dyweddi deimlo ei fod yn edrych ar olygfa o'r Canol Oesoedd.

Daw'r daith i ben gyda golwg ar natur ac ecoleg arfordirol glannau'r Fenai a'r olygfa wych a geir oddi yno tua'r tir mawr.

Petai rhywrai'n digwydd gweld y ffilm hon ar ei hanner, a'r olygfa o'r gweithlu ym mol buwch y sinema, oll yn eu lifrai gwynion a'u helmedau lampiog a'u lanternau yn eu dwylo, gellid maddau iddynt am dybio mai glowyr oedd ar y sgrin.

Yn yr adran gyntaf y mae edafedd nifer o hanesion yn ymwâu trwy ei gilydd wrth i'r olygfa symud o lys Arthur yng Nghaerllion-ar-Wysg i Gaerdydd ac i helynt Edern ap Nudd.

Prin yw'r manylion, gyda'r paent wedi ei roi'n gyflym a rhwydd, peth sy'n rhan o awgrymu darfodedigrwydd yr olygfa a'r brys i'w mynegi tra mae'n para.

Rydym wedi tynnu llun arbennig o olygfa oddi ar yr Ynys ar hwyrnos o haf.

Doedd dim ond deuddydd er yr olygfa honno yn y clwb Ffermwyr leuanc.

At Fethesda y cyfeirir yn y cwpled agoriadol, wrth gwrs, a'r olygfa a gyflwynir ynddo yw honno o chwarel lechi Y Penrhyn yn un graith enfawr ar wyneb y mynydd, yn bonciau a thomennydd ar draws y lle ymhob man.

Dim ond distawrwydd y coed pin, sisial y nentydd bychain, disgleirdeb yr eira ac ol troed anifeiliaid bach ynddo, lliwiau cyfoethog yr haul a godidowgrwydd yr olygfa.

Troais i edrych ar yr olygfa o'm blaen ac yno yn y pellter yr oedd y prif atyniad twristaidd, sef Table Mountain.

I'r Cymry wedi taith o dri mis, mae'n siwr ei bod yn olygfa ryfeddol.

Beth oedd i rwystro llu o rai tebyg iddo yntau, a digon o fenter busnes neu syniadau pensaerniol yn eu pennau, neu lygad am olygfa dda, rhag cael eu tanio i weithredu 'run fath, nes i bob hafod a llety o Gaerfai i Gilgerran gael ei drawsnewid?

Heddiw mae'r olygfa wedi newid llawer, yn lle'r caeau bach a'r mynydd a'r cloddiau cerrig shêl - mae'r 'coed duon' yn erwau ar erwau o binwydd - sbriws sitca rhan fwyaf...

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Yn ei waith diweddarach mae'n symleiddio ffurf i'w elfennau mwyaf sylfaenol, ac eto mae'r ymdeimlad o olygfa ar adeg arbennig - ar ddiwrnod gwlyb, gwyntog, niwlog, er enghraifft - yn arbennig o gryf.

Rhyw olygfa debyg i'r Tsiena'r ffilmiau, bron fel camu'n ôl mewn amser.

Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.

Nos Sadwrn a bore Sul fen llethwyd unwaith eto gan yr olygfa drist o Gymru yn dathlu methu ag ennill gêm bêl-droed arall.

Daw Mona a'r newydd yng nghanol yr olygfa heintus hon fod Eli wedi ei daro'n wael - ond addawa'r creadur wneud ei orau glas i ddal 'mlaen cyhyd ag y gall, er mwyn Tref!

Ac wrth ddynesu at fro'r goleuni gwelsom olygfa brydferth annisgwyliedig.

Dwn i ddim os oes unrhyw un ohonoch chi wedi gweld llond sach o arian papur, os nad ydach chi, - mae hi'n olygfa gwerth ei gweld, coeliwch chi fi!

Roedd gwaith dringo at y pinacl, ond roedd yr olygfa oddi yno ar draws y pwll yn fendigedig.

Sugnodd i'w gyfansoddiad yr olygfa wrth syllu ar y clogwyni llwydwyn y tu ol iddo, a rhythu'n obeithiol tua Ffrainc.

Gwelais olygfa o'm blaen sydd bob amser yn ddolur i'm llygaid.

"A phe bai unrhyw un ar y rhostir yn ystod yr ychydig funudau hynny, mi allai weld yr olygfa ryfeddol hon a chael cip ar y trysor," meddai'r ych.

Ond ar y funud olaf, fel petai, mae'r ochr ymarferol, traed-ar-y- ddaear yn cymryd drosodd; fel petai'r golau'n gostwng ar un rhan o lwyfan, ac yn codi ar un arall, yn gwneud i ni gredu yn yr olygfa honno, er bod y llall yr un mor wir.

Syllu allan trwy'r ffenestr yr oedd, gan ryfeddu at yr olygfa draw o'r Betws Fawr, y Graig Goch, yr Wyddfa a Moel Hebog.

Daliai Meg ei hanadl mewn rhyfeddod at yr olygfa.

Os am weld yr olygfa yma gellir gwneud hynny drwy glicio yma.

Dyma olygfa drist.

Yno, gwelais olygfa a'm syfrdanodd.

Erbyn iddo droi'i gefn ar yr olygfa erchyll roedd y car arall wedi hen ddiflannu, gan ei adael i ffonio Llundain a gyrru'n ôl.

Yn sydyn ryw fore llamodd y bêl i ben bryn a edrychai dros ddyffryn eang, a gwelodd Idris, o'i dilyn, olygfa ddigalon iawn.

tra allan ar y maes yn ymladd - eu llestri bwyta, dillad eu gwely, pob peth, mewn gair - roedd yr olygfa hon yn fwy nag y medrai teimladau odid un ei dal am y tro cyntaf.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.

Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.

Y gêm griced rhwng dau o'r tai oedd yr olygfa a gonsuriodd.

Mae'r olygfa'n debyg i farchnad fawr yn llawn anifeiliaid yn aros eu tro i gael eu gwerthu - ond pobl sydd yma.

Gwelai gaeau a bryniau o flaen y castell, ond torrid ar yr olygfa gan wal arall.

Canodd alaw allan o El nino judio (Y plentyn o Iddew) opera o waith y cyfansoddwr Sbaenaidd Pablo Luna a chân Tatyana o olygfa'r Llythyr o Eugene Onegin gan Tchaikovsky.

Wrth i'r olygfa ddod i'r golwg yn ffram y bwlch - yr Wyddfa a Moel Hebog a phenrhyn Llŷn, Ardudwy a Mochras a'r mor ac Enlli - dyfynnodd fy nhad o soned Keats: .

Ac felly pan safwn wrth y gofeb y dydd o'r blaen, gallwn ddychmygu'r olygfa a chlywed sŵn Halelwia yn y gwynt.

Yr olygfa frawychus yn Aberdaugleddau yn sir Benfro ddydd Sur.

Yr olygfa yw ystafell athrawon mewn ysgol uwchradd rywle yng ngogledd Cymru ac un o golofna'r achos, ganol y bore, o'i gadair freichia', wrth dynnu ar 'i getyn, yn rhoi ei linyn mesur ar raglenni teledu'r noson flaenorol: 'Wel'ist ti Leila ni neithiwr?' 'Leila?

Cewch olygfa dda o'r cilfachau cysgodol a'r creigiau geirwon.

Mae ôl sylwi amyneddgar ar olygfa yn amlwg yn ei waith o'r dechrau un er nad yw'n cynnwys manylion topograffig.

O ran techneg dylwadodd yr Impresionistiaid a'r O^l-impresionistiaid gryn dipyn arno, ond gofalai bob amser fod y dylanwadau hynny'n gwasanaethu ei amcan arbennig ef o gyfleu ei ymateb personol i olygfa.

Ac mae'r olygfa o'r mynyddoedd yn fendigedig.'

Dro ar ôl tro mae'n symleiddio manylion er mwyn pwysleisio'r hanfodion - y graig, y môr, y tir - gan hepgor manion amherthnasol er mwyn dal ysbryd yr olygfa fel y gwelai ef hi.

Rwy'n darogan y bydd yr olygfa a welir yma yn cael ei chwarae a'i hail chwarae gan genedlaethau sydd eto heb eu geni.

Yr oedd yn awr yn ail-fyw'r olygfa y dydd y cafodd notis.

Creodd yr olygfa syndod a dychryn i'r rhai oedd yn bresenol.

A chyn pen nos roedd Llety'r Bugail wedi ei werthu i'r estron, a edmygodd y lle oherwydd yr olygfa eang o'i ffenestri ac a chwenychodd y lle fel gwrthrych i'r arbrofion pensaerniol.

Roedd yr olygfa yr oedden nhw newydd ei gweld yn un rhy ddifrifol i'w hanwybyddu.

Pan ddengys lilith ichi mor hyfryd yw'r olygfa o ffenestr y llofft ac fel y mae'r domen dail yn rhoi cydbwysedd artistig iddi, peidiwch â'i alw'n rhagrithiwr melltigedig na'i daro dan glicied ei ên.

Am ryw reswm, mae dwr yn tarddu yno, gan roi inni fyd hollol wahanol ar ei union Yn Oman y gwelais i rasus camelod am y tro cyntaf - a dyna ichi olygfa ydi honno.

Llwyddodd o'r diwedd ac edrychodd i lawr ar yr olygfa ar y lanfa.

Fe ellir profi blas yr olygfa heb wybod ail i ddim am y trigolion, ddoe a heddiw.

Gwres yr haul oedd yn codi anwedd o'r lleithder yng ngenau'r twnnel, ac yn troi'r olygfa yn gylchoedd consentrig unlliw'r enfys.