Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

onest

onest

Dipyn o ddireidi hwyrach, ond dim byd tebyg i blant heddiw.' Wel, rhaid i mi fod yn onest, 'doedd na ddim rhyw lawer o wahaniaeth!

Atebwch fi'n onest - ydych chi'n un o'r criw sydd eisiau prynu neu dim ond gweithredu ar eu rhan nhw yr ydych chi ?" Daeth newid dros wyneb y twrnai.

A bod yn onest, doedd yr un ferch wedi mennu rhyw lawer arno.

Fel y nododd Gruffydd wrth adolygu'r ddrama yn Llenor yr haf hwnnw, ffurf newydd ydoedd na chai'r clod a haeddai er ei bod yn 'ymgais onest i dorri llwybr newydd.' Llwybr ydoedd a wyrai oddi ar gonfensiwn drama'r Gegin Gymreig yn null Beddau'r Proffwydi, o ran plot a hefyd o ran syniadaeth gynhaliol.

'I fyny at Pwll Mawr,' atebodd Bleddyn yn onest.

Waeth imi fod yn berffaith onest a chyfaddef fy mod i wedi methu perfformiad Hitchcock ar ddechrau'r Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf ond yn sicr mi oeddwn i'n bresennol pan gamodd Chouchen i'r llwyfan.

Roedd yn onest, yn annibynnol a braidd yn anodd i'w drin.

Ar ôl ei ryddhau gwnaeth ymdrech fwy i fod yn onest a llwyddodd i gadw allan o ffordd yr heddlu.

'O'dd amddiffyn Cross Keys yn dda iawn i fod yn onest.

'Maen nhw'n meddwl 'mod i'n gwbwl ddi-werth, a bod yn onest.'

I ddangos ei fod yn onest ac o ddifrif, rhoddodd ei waled yn llawn o arian i'r ceidwad i'w warchod nes iddo ddod allan.

Ond wrth fynd ati i gofnodi'r atgofion hyn ceisiais fod mor ddiduedd ac onest ag sy'n bosibl.

A bod yn onest hen arferiad diflas a swnllyd oeddwn i yn ei gael o.

"Da i ddim i mewn ar ôl y llarbad brwnt am bensiwn," meddai Picsi'n onest, a wnaeth neb arall anghytuno.

Ond gadewch inni fod yn onest a ni ein hunain; wedi tynnu corcyn go anodd o botel y mae o yn hytrach na throi dwr yn win.

Na, sa'i moyn bod yn rhy gas am Dad a Mam, ond wir i chi - rw'i'n methu deall sut maen nhw'n dal i fyw 'da'i gilydd i fod yn hollol onest.

Mae'n rhaid bod yn onest â rhywun sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg.

Beth wyt ti'n feddwl o'r darlun?" "A deud y gwir yn onest," meddai Sam, "dydw i'n gweld fawr ddim yno fo.

Felly, a bod yn onest nid o gariad at yr iaith y dechreuais i ddysgu, ond o reidrwydd mewn ffordd, rhyw deimlad o fod yn Gymro yn gallu siarad a phobl.

Roedd rhaid i foi gael rhywun; fedrai neb loetran o gwmpas ar ei ben ei hunan; ond a bod yn onest doedd e erioed wedi meddwl rhyw lawer ohoni.

Nid yw'r erthygl hon yn llwyddo i ddatrys beth yw effaith llenyddiaeth, a beth yw ei pherthynas â moesoldeb, ond y mae'n eglur ei bod yn cymeradwyo realaeth sy'n onest a chyfrifol.

Pe baem ni'n bod yn gwbl onest, mae'n debyg fod pob un ohonom wedi melltithio carafanau rywdro neu'i gilydd.

'Roedd pob chwaraewr yn gwbod beth oedd ei waith e - yn gwbod beth oedd e'n gorfod wneud -ac i fod yn hollol onest fe wnaethon nhw eu gwaith yn wych.

Ond yn lle eu hateb yn onest, yr hyn a wnaeth yr arbenigwr ar y Testament Newydd oedd glaswenu a chracio jôc fach lywaeth a ddangosai mewn ffordd Gristionogol glws y fath glown oeddwn i fod wedi paldaruo codi'r fath gwestiynau.

Mae'r aelodau i ddatguddio'n onest eu pechodau, i gydnabod daioni a gogoniant Duw, i siarad yn ddiweniaith â'i gilydd ac i gymryd eu ceryddu os digwydd iddynt droseddu.

Ffortiwn, a bod yn onest.

Buasai'n dda gennyf gael barn onest un o'i gyd-weinidogion ar gyflwr ac ansawdd ei feddwl."

Ie'n wir, os ydi'r llenor o Eingl-Gymro'n onest ag ef ei hun, bydd yn rhaid iddo gyfaddef mai mewn iaith estron y mae'n sgrifennu.

Yr oedd yn ŵr manwl, fel y dywedais, ac ni allai oddef harum scarum o broffeswr; ond gan nad beth a fyddai colledion a diffygion dyn, os credai Abel ei fod yn onest, cydymdeimlai'n ddwfn ag ef.

Ac i fod yn hollol onest, faint ohonom ni'r 'werin' gyfoorddus, hunan gyfiawn sydd a'r syniad lleiaf o achosion y streic andwyol hon?

Petai'n onest, pa lenor o Gymro na fyddai'n cyfaddef iddo gael ei demtio i sgrifennu yn Saesneg am ryw reswm neu'i gilydd?

Gwyddai yntau fy mod i'n hollol onest.

"Yn un o'i ffrindiau?" "Mr Rees," meddai Snowt, "gedwch imi fod yn berffaith onest efo chi.

Chlywson nhw ddim byd, ac o'r diwedd penderfynwyd y buasai'r arian yn cael ei rannu rhwng y saith plentyn onest.

Ond a bod yn hollol onest, fedra i ddim dod o hyd i eirie i ddisgrifio rheiny'n iawn.

Dyma'r sylwadau a wnaeth y rhai llai na bodlon: Do, ond dim cymaint ar ail iaith ag ar yr iaith gyntaf (Powys); Roedd y ffeil yn wag pan y'i derbyniwyd ac mae'n para'n wag (Dyfed); A bod yn onest ni ches lawer o fudd o'r deunyddiau.