Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

onibai

onibai

Maen nhw'n dweud na fedrwch chi werthfawrogi'r Paith onibai eich bod chi mynd mewn bws.

Diau na fyddai y Daeargi Cymreig yn bod fel ci sioe onibai am ei thad.

Onibai i Wil Twmpath gael ei hudo i Wlad N'Og ar ei ffordd o ffair sglodion Capel Tarsis gyda llathen o wynwyn dros ei ysgwydd - bargen o stondin gynnyrch Mrs Harris y Gweinidog - mae'n amheus a fyddai pethau wedi digwydd fel y gwnaethont.

Fe ddywedodd un o lenorion mawr Lloegr mai prin iawn fyddai'r beirdd ar ein daear onibai am farwolaeth.

Diffyg diddordeb oedd y peth tristaf am etholiad y Cynulliad ac onibai am lwyddiant rhyfeddol Plaid Cymru, yr unig stori fyddai wedi mynd a bryd y wasg oedd y nifer isel a bleidleisiodd.

D'wn i ddim pam y meddylient hyn onibai mai fi oedd y dyn lleol.

Pa un ai ydynt yn rhai arbenigol neu'n rhai cyffredinol, heb os nac onibai, sioeau cŵn yw uchafbwynt byd y sioeau yng Nghymru.

Onibai ei fod yn adnabod Ramirez yn bersonol efallai na fyddai wedi dod beth bynnag.

Onibai i hwnnw, hwyrach, fod yn gaws Brie neu Camembert.

Y Cyflawniad Ysgrythurol: Byddai'r dehongliad o farw Crist fel aberth dros bechod yn annealladwy onibai am aferion a disgwyliadau Israel yn yr Hen Destament.

Ac y mae'n debyg mai felly y buasai wedi parhau onibai am Ynot Bennaeth.

Onibai bod Cymdeithas Pêl-droed Lloegr yn lliniaru oherwydd natur arbennig yr amgylchiadau.

Doedd dim gwerth i'w gofnodi yn yr ail hanner, onibai am gôl Nicky Palmer, naw munud o'r diwedd.

Heb os nac onibai, prif arwr yr History i Syr John, os gellir synied am arwr o gwbl ynddo, oedd ei hen daid Maredudd ab Ifan ap Robert, sylfaenydd y teulu yn Nanconwy yn ail hanner y bymthegfed ganrif.

Yn wir mae eisoes yn bell ar hyd y ffordd fel fy mod yn amau weithiau faint o actio sydd raid iddo ei wneud, onibai am gofio'r sgript.

Onibai am eu hymdrechion hwy edwino fyddai'r ddrama amatur a byddai'r gymdeithas yn dlotach o'r herwydd.

Ni wyddai Hector druan hyn, ac onibai am archeb anferth Mrs Paton Jones a'i llythyr at y goruchwyliwr yn canmol yn frwd chwaeth a help gwerthfawr 'eich Mr Pennant' ni byddai'r stori hon gennyf i'w chroniclo, gan na chafodd Hector glywed gair am y llythyr.

Fodd bynnag mae pethau'n newid ac erbyn hyn mae llawer o bobl yn rhy brysur i drefnu "ty agored" onibai mai'r Sadwrn yw dydd y dathlu.

Bydde neb yn enwi neb onibai bod rhywbeth gyda nhw ar fideo - y peth yw falle gwelan nhw rywbeth arall, hefyd.

Cymunedau Rhydd — nid y Farchnad Rydd Ni bydd y Gymraeg fyw onibai fod cymunedau Cymraeg yn byw.

"Onibai mod i wedi gofalu cadw Fflwffen yn y tŷ rydw i'n siwr y byddai ei henw hithau ar y rhestr hefyd.

Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!

Heb os nac onibai fe welwn yn fuan broffwydoliaeth arweinyddion Undeb y Glowyr yn cael ei wireddu, gyda mwy a mwy o weithfeydd yn cau am nad ydynt yn ddigon 'Proffidiol'.

Yn eu plith y mae: Dim Stripars (rheol 2), Dim trafod gwleidyddiaeth (7) Dim Dynion onibai... (3) Nad ydyn nhw ond yn aros am hanner awr (4) A'u bod yn prynu peint i'r merched i gyd cyn gadael (5).

Onibai eich bod ach bryd am rannur sedd gefn a hi - neu eich bod yn byw yn ardal Lothian yn yr Alban.

Onibai eu bod yn awyddus i gydymffurfio o'u gwirfodd, ni ddisgwylid iddynt gytuno â'r un cynllun iaith statudol penodol iddyn nhw'n unigol.

Onibai eu bod am ddod i'r Ciei Newydd neu Aberastwyth, wrth gwrs.