Doedd aros yn rhy hir o dan onnen ddim yn beth da, fodd bynnag, gan fod ysbrydion yn tueddu i hoffi clwydo yn ei brigau.
Roedd ofn yr onnen ar nadroedd ac ni ddeuai un ar gyfer neb oedd yn cario ffon onnen.
Yn ôl un hen gred golchwyd y baban Iesu am y tro cyntaf wrth dân o bren onnen.
Roedd yr onnen hefyd yn goeden sanctaidd, yn garedig wrth bobl, yn eu gwella a'u gwarchod rhag rhaib gwrachod, os cedwid peth o'r pren a'r dail yn y tŷ.
Credai rhai pobl y gellid gwella plant oedd yn dioddef o dorgest (rupture) a'r llechau (rickets), drwy ddefnyddio coeden onnen ifanc.
Un o deulu'r onnen yw'r griafolen neu gerddinen.
Roedd yr onnen yn goeden oedd yn ffefryn gan gariadon.
Er mwyn gwella clustiau oedd yn crawni berwid hadau'r onnen yn nŵr y claf ac iro'r clustiau â'r gymysgedd.
Er mwyn gwella'r galon cymysgid hadau'r onnen, llin a gellygen, eu curo'n dda mewn gwin gwyn a'i roi i yfed i'r claf pan fo'n glaear.