Yr oedd mab yr Yswain, Mr Ernest Griffith, a oedd wedi cael gwell addysg na'i dad, ac wedi llyncu syniadau am y dull y dylai pawb adnabod eu lle mewn cymdeithas, dipyn yn wahanol i'w dad yn ei opiniynau a'i dueddiadau.
Mae llawer o'u cynnwys yn opiniynau dynion y cyfnod hwnnw am y gyfundrefn addysg honno a'i diffygion.
Nid oedd ei ddadl ond distylliad o ffeithiau ac opiniynau a gofyniadau a wnaethpwyd yn gyfarwydd yn yr holl gyhoeddiadau swyddogol a grybwyllwyd eisoes.
Ynddi hi deuai'n 'holl opiniynau yn un'; hi ydoedd 'iaith calon y genedl ei hun'.
Iddo ef nid oedd holl ddysg y Dadeni, y toreth o opiniynau gwrthgyferbyniol, y llifeiriant o ddamcaniaethu athrawiaethol yn ddim ond rhwystrau ar ffordd dyn i gyfathrachu'n uniongyrchol â Duw.