Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orchwyl

orchwyl

Ymhell cyn dechrau'i wyliau dechreuasai Hector gyfrif y dyddiau hyd y cychwyn ar ei antur fawr, a chael hynny'n orchwyl maith - hyd yr ychydig ddyddiau olaf.

Gellid galw rhai dwsinau o droeon a gweld y cert neu'r olwynion ar eu hanner, rhyw gychwyn arnynt, yna mynd at orchwyl a mwy o alw i'w orffen.

Dyma orchwyl beryg iawn.

Y mae ceisio cysoni'r ffaith hon a'r teimlad o falchter cenedlaethol, hyd yn oed a hunaniaeth genedlaethol, yn orchwyl poenus o anodd.

Nid fod ein dyled ronyn yn llai iddo ar ôl inni wybod hynny, oblegid cryn dipyn o orchwyl oedd llywio cwrs argraffiad diwygiedig hyd yn oed pan oedd rhywun arall yn gyfrifol am y diwygio.

Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod un garfan - y mynaich traddodiadol - wedi eu cyfyngu i fynachlogydd ac wedi cymryd fel eu prif orchwyl gynnal y cylch o wyth gwasanaeth canonaidd ddydd a nos; tra oedd y lleill - y Brodyr - yn cael gadael eu priordai er mwyn mynd ar hyd y wlad i bregethu, gan gardota am eu cynhaliaeth wrth fynd.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi'ch mamau yn pobi bara (erbyn hyn daeth pobi gartref yn orchwyl ymwybodol, nid yn anghenraid) ac yn treulio rhan dda o'r dydd yn glanhau'r tŷ gan flacledio'r lle tân a golchi'r aelwyd?