Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ordd

ordd

Disgynnodd yr ordd hefyd ar y ddaear wrth ei ymyl gan agor ffos ddofn fel archoll yn y pridd islaw.

Rwyf wedi clywed ar ôl dechrau'r papur hwn nad Metlin oedd y cam cyntaf yn y gwaith, ond eu bod yn gyrru cerrig go fawr (term y gwaith am y rhai hyn yw cerrig torri, sef cerrig wedi eu torri gan yr ordd) i Runcorn i gael eu metlo; felly roedd yn angenrheidiol cael rhywbeth i gario'r cerrig hyn o ben y graig i lawr i lan y môr, a ffyrdd i'w cludo.

Williams Pantycelyn sy'n dod drymaf o dan yr ordd am sôn yn ei farwnad ar ôl Howel Harris am Gymru "gynt yn gorwedd mewn rhyw dywyll farwol hun, Heb na Phresbyter na 'ffeiriad nac un Esgob ar ddihun".

Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.

Y funud y gwelodd Idris, dyma'r cawr ar ei draed, yn rhuo fel tarw, yn chwifio'r ordd uwch ei ben, a'i lygaid yn melltennu.

Edrychai fel mynydd mawr, ei wallt fel brigau coed a'r un llygad yng nghanol ei dalcen fel olwyn cart; yn ei law daliai ordd anferth ac iddi flaen haearn, trwm.

Dichon bod Peter Williams yn gweld cyfle mewn print i apelio mewn œordd a oedd yn arnhosib ar lahr.

Bu hefyd dan yr ordd gan nifer o wþr blaenllaw'r genedl ynglŷn â'i gyflog ar ôl dwy flynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Prin y gallai Idris symud gan ofn y disgynnai'r ordd ar ei ben unrhyw funud.