Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orffwys

orffwys

Wedi'r gwasanaeth, aeth yr angladd i fynwent Eglwys Llansadwrn a rhoed y fam i orffwys yn y bedd cleilyd.

a chael hanner awr o orffwys yno.

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Penderfynu mai gwyliau o orffwys, cerdded y mynyddoedd a mwynhau'r golygfeydd bob yn ail fydd hwn.

Cododd Elystan y corff eiddil yn dyner a'i roi i orffwys ar wely o beiswyn gerllaw'r pentwr coed wrth yr aelwyd.

Penderfynodd y Cyfeisteddfod fod Pengwern i gymryd chwe mis o seibiant a mynd i ryw ran o India tu allan i'r Maes 'lle caffo orffwys ac adnewyddiad'.

Yn fuan cyrhaeddon fy ngwesty ac ar ôl i fi orffwys oherwydd y time lag roeddwn i'n barod i edrych o gwmpas y ddinas.

'Y mae'r ffaith,' meddai, 'na ellir bellach cynnal Prifwyl ar y raddfa arferol ar lawer llai na hanner can mil o bunnau yn awgrymu maint y cyfrifoldeb sy'n mynd i orffwys ar ysgwyddau rhywun.

Fedra'i byth fynd yn ôl at Gwyn a'i Dylwyth heb orffen y llifogydd, ond cyn suddo'r lle mi leiciwn orffwys unwaith dan do diwael yn glud dros nos.

Byddai yn mynd i'w wely yn syth ar ol cinio'r Sul i orffwys ac atgynferthu at yr hwyr.

Rho ras i ninnau geisio ymochel dan gysgod dy adain a gwneud hynny pan fo hi'n hindda fel, pan ddelo'r storm, y cawn orffwys mewn tangnefedd.

Ond collir golwg ar natur gyfangwbl ddiwinyddol y syniad Iddewig wrth ddilyn y trywydd hwn, gan mai'r datguddiad o Dduw yn hytrach nag unrhyw falchder cenedlaethol a orffwys y tu ôl iddo.

Wedi iddynt fwyta pryd da, cododd Pierre, Mi awn i'n gwelyau,' meddai, cawn orffwys fory beth bynnag.' Arweiniodd y ddau i fyny grisiau llydain.

"O, mi fyddaf i'n iawn wedi ychydig o orffwys, does dim byd mawr o'i le arna i, ond mae'r ddamwain hon wedi newid pethe i mi." A dyna newydd da a newydd drwg i'r plant mewn un prynhawn - y newydd da fod Dad ar wella, ond y newydd gwaethaf oll y byddai'n rhaid iddynt adael yr ynys - eu hannwyl gartref.

Erbyn y prynhawn, mi fyddai'r dynion bach od wedi blino, ac mi fyddai arnyn nhw eisiau eistedd i orffwys.

Roedd criw yr awyren yn mynd i orffwys am bedwar diwrnod yn Istanbwl - ond aros yn Iran wnaeth Aled.

Carreg filltir yw blwyddyn newydd, cyfle i orffwys, cyfle i fyfyrio, cyfle i edifarhau, cyfle i ymadnewyddu.

Rhoddwyd ei gweddillion i orffwys ym mynwent Trefriw.

Yn tawel orffwys Dan gysgodau'r palmwydd clyd,

Dewch i'r gegin i gael tamaid cyn mynd i orffwys,' meddai Pierre.

O'r fath dynerwch wrth iddo roi'r bwndel bach i orffwys!