Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.
Dyma blaid ifanc a orfododd etholwyr Cymru i ystyried achos rhyddid eu cenedl fel y pennaf peth mewn gwleidyddiaeth, ac yn y man gorfodwyd y pleidiau eraill, a anwybyddodd anghenion Cymru cyhyd, i roi sylw iddi.