Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orfodol

orfodol

'Roedd yn orfodol gweithredu prosesau gorfodi yn erbyn datblygu nas awdurdodwyd yn effeithiol ac ar fyrder er mwyn i reolaeth cynllunio fod yn effeithiol.

Y mae'r rhain yn rhan orfodol o'r cwrs.

Dylai pob disgybl, erbyn iddo orffen ei addysg orfodol yn 16 oed fod wedi dod yn eithaf rhugl yn y Gymraeg.

Y newyddion da ynglŷn â dysgu Hanes Cymru yw y bydd cyn bo hir yn ffurfio rhan orfodol o gwrs Hanes pob plentyn yng Nghymru.

Bydd presenoldeb yn y sesiynau yn orfodol a gall absenoldeb heb resymau digonol arwain at fethiant.

Mae'r ysgolion cynradd yn orfodol i bawb.

Yn ail hanner y ganrif ddiwethaf meddai ar ddigon o allu i osod cyfundrefn addysg orfodol gwbl Saesneg ar y wlad; a phan ecsploetiwyd adnoddau naturiol a dynol Cymru yn ddidostur gofalai mai Llundain a Lloegr a gai'r budd.