Dyma'r cyfnod pan gollodd Cymru gannoedd o'i phobl ieuainc ddisgleiriaf, y bechgyn a'r genethod a ddaeth allan o'n colegau a'n prifysgolion, ac a orfodwyd i fynd dros y ffin i Loegr i chwilio am swyddi am nad oedd gwaith ar eu cyfer yng Nghymru.
Hwn yw'r cyfansoddiad a orfodwyd ar Orllewin yr Almaen ar ddiwedd yr ail Ryfel Byd er mwyn sicrhau na cheid yno ddim eto weld gwladwriaeth gref, gor-ganolog ac unbenaethol.
Er mai Saesneg oedd yr iaith swyddogol a orfodwyd o du allan, trwy gyfrwng y Gymraeg y bu i'r trigolion hyn ymwneud â'i gilydd a diffinio eu hunaniaeth.
Ond ar y cyfan cyflawnodd y gyfundrefn wasanaeth mawr drwy roi sicrwydd i lefel prisiau allanol mewn byd lle yr oedd prisiau mewnol yn newid yn weddol raddol; ac yn ychwanegol fe orfodwyd ambell i drysorlys i gadw ei fantolen yn fwy gwastad.
Fe orfodwyd y cynghreiriaid a ryddhaodd frenhiniaeth ffiwdal Kuwait i roi help llaw am y tro i genedl hynafol na chafodd fyth gydnabyddiaeth deilwng gan y byd rhyngwladol.
Enillodd Taro Naw y wobr am y rhaglen newyddion a materion cyfoes orau yn yr Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd gydag adroddiad teimladwy ar deulu o fferm fynydd Gymreig a orfodwyd i ymfudo i Ganada oherwydd yr argyfwng amaethyddol yng Nghymru.