Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

organ

organ

Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.

Nid bod cyfraniad cerddorol yr Eglwys yn ddisylw gan fod organ a chôr eglwys gadeiriol neu abaty yn sicr o fod yn hyfrydwch i glust pwy bynnag a'u clywai Ond yr oedd crefft y telynor a'r crythor proffesiynol yn dai yn hynod fyw a derbyniol, a pharch mawr yn cael ei ddangos tuag at feistri'r re/ pertoire traddodiadol helaeth a chywrain, sydd bellach wedi llithro bron yn llwyr o'n gafael.

Yr Organ Dangoswyd cryn ddiddordeb yn ein horgan newydd gan ffrindiau o bell ac agos.

Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel yr Amlosgfa, Bae Colwyn, lle y daeth tyrfa deilwng i dalu'r gymwynas olaf dan arweiniad y Parchedigion Goronwy Prys Owen ac Isaac Jones, Abergele, a Mrs Alwena Jones yn gwasanaethu wrth yr organ.

Dyma eiriau Harry Roberts, "Roedd ffrancon yn medru chwarae'r organ yn well hefo'i draed na 'Mr X' hefo'i ddwylo!!"

Cynhaliwyd cyngherddau corawl ac i'r organ yn rheolaidd yn Eglwys Crist gan ddangos dawn a gallu Ffrancon Thomas.

Mr RP Williams, Rhosybol oedd y cyflwynydd a Mrs Carys Davies wrth yr organ.

'On'd oes 'na organ yn y fan honno hefyd?' 'Mae hi'n iawn mewn rhyw le felly,' atebodd yntau.

Byddai Ffrancon Thomas hefyd yn rhoi datganias ar yr organ - y mae gennyf ddarn o boster yn hysbysebu cyngherddau organ o'r cyfnod yn enwi Sandy McPherson a Ffrancon Thomas hefo'i gilydd.

I aelodau'r hen Seilo, Ann Rhydderch yw merch Mair Hughes a arferai ganu'r organ yn y capel, a chawsom ei chwmni uwchben pryd o fwyd yn y Cross Foxes.

Mi fydda nhw mae'n debyg yn mynnu cael peth o'u ffordd eu hun - dwad a'r gitar yn lle'r organ, pethau fel hyn.

Mae yna swn llawn iawn gyda swn organ Pwdin yn ychwanegu dyfnder.

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel pan oedd y BBC wedi symud i Fangor o Lundain a chungherddau yn cael eu darlledu o'r hen County Theatre, yno yr oedd organ fawr y BBC yn cael ei chwarae gan yr enwog Sandy McPherson.

Mae Joe yn brysur iawn ar yr albym gan mai swn unigryw ei allweddellau sy'n agor y gan yma eto, ac mae Justin hefyd yn amlwg ar yr organ geg.

Priodwyd hwy yn Eglwys annibynol Seilo, Y Felinheli, gyda'r Parchedig RW Hughes (tad Buddug) yn gweinyddu, a Miss Elsie Jones, Dinorwic Villa wrth yr organ.

Ar ddiwedd arholiadau'r haf gofynnwyd i mi ddechrau cymryd fy nhro ar organ Capel Seion, ond teimlwn y byddai'n fuddiol i mi gael practis go iawn arni'n gyntaf.

Cofiaf rai blynyddoedd yn ol, mewn cinio ym Mangor, wrando ar y gŵr gwadd sef Richard Lloyd, cyn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd ac yn ddiweddarach Durham, sydd yn awr wedi ymddeol ac yn byw ym Mhentraeth, Mon, yn cofio ei wyliau pan yn fachgen yn Llangairfechan ac yn mynd i un o ddatganiadau Ffrancon a hefyd yn cofio ei garedigrwydd drwy ganiatau iddo ymarfer ar organ wych Eglwys Crist.

Emlyn Jones a Mr Gwilym Roberts yn gwasanaethu wrth yr organ.

Cyn iddo agor ei lygaid, medrai Geraint glywed sŵn organ yn gymysg â lleisiau'n gwau drwy'i gilydd fel ieir.

'Dw i isio practeisio'r organ.'

Bum yn y capel rhyw ben o'r dydd bob diwrnod tra ar yr Ynys, yn ceisio rhoi diolch, a chanu'r organ a.y.b.

Hyfrydwch oedd cael croesawi'n ôl Mr Roger Jacob i'n cynorthwyo'n fedrus dros ben ar yr organ.

Mrs Alwena Jones a wasanaethodd wrth yr organ.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!

Ond pan gafwyd organ yn y capel, a honno'n rhuo yn nhwll ei glust, digiodd yn bwt wrth 'y ddelw fawr Deiana' fel y galwai ef hi, ac aeth am yr eglwys.