Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

orlawn

orlawn

Daeth llawer iawn o bobl i'n tŷ ni i ddechrau, ac wedyn i Bethel, lle'r aethpwyd a hi, ac y cynhaliwyd cwrdd, a'r capel yn orlawn.

Bum mewn cyfarfodydd pregethu yno amryw o weithiau yn gwrando ar rai o'r "Hoelion Wyth" a'r capel yn orlawn, a chanu bendigedig er nad oedd offeryn yno'r pryd hynny.

Gorsaf y rheilffordd yn anhygoel, hyd yn oed ar ol gweld ffilm 'Ghandi' - yn orlawn mewn modd na ellir ei ddychmygu heb ei weld, yn swnllyd, yn fyglyd, nid yn unig gan stem ond gan fwg y gwahanol stondinau sy'n coginio ar y platfform.

Yr oedd yn wirioneddol flasus, a hyd yn oed y foment hon gallaf weld Ginger a John Thomas, eu cegau'n orlawn a'u hwynebau'n bochio, yn fy llongyfarch ar fy medr fel cogydd.

Roedd y lle yn orlawn o Ffrancwyr a golwg ddigon amheus ar y rhan fwyaf ohonynt.

Pan aeth H. T. Edwards i'r gadair yr oedd Neuadd y Ddinas yn orlawn.

Roedd strydoedd y ddinas Ewropeaidd odidog hon yn orlawn ac yn byrlymu ysbryd y Nadolig.

Os bydd rhaid gwneud hynny, bydd rhaid cysylltu â chynrychiolwyr pob un o'r Chwe Gwlad, nid Undebau Cymru ac Iwerddon yn unig, i weld a ellir ail-drefnu'r gêm mewn tymor sy eisoes yn orlawn.

Yr oedd Pafiliwn Rhyngwladol Llangollen yn orlawn nos Sadwrn gyda phobl o bob cwr wedi ymgynull i wrando ar un o'r bandiau gorau erioed i ddod allan o Gymru, sef Catatonia.

Rai wythnosau'n ddiweddarach dyma Jim yn taro ei big i mewn i siop y pentre, a honno'n orlawn ar y pryd.

Nid peth dieithr o gwbl oedd cael Neuadd Powis yn orlawn i'r cyfarfodydd.

Cychwyn am ddeg o'r gloch o orsaf Castellamare, wedi canu'n iach i hen gyfeillion a - mewn hwyl raslon - i'r RSM Y trên bach yn orlawn.

Bob nos, am fisoedd mi 'roedd tŷ ni yn orlawn.

Yr oedd yno hefyd gadeiriau esmwyth, a dwy lyfrgell yr orlawn o lyfrau.

Roedd y neuadd fawr yn orlawn.

Roedd y mosgiau'n orlawn o bobl.

Yna daeth Margaret Thatcher ataf a dywedais wrthi wrth ei hebrwng tuag at y neuadd orlawn beth oedd trefn y noson.

Yr oedd y capel yn orlawn.

wedi ymsefydlu yn y tai gorau ac yn orlawn o filwyr.

Enghraifft syml o hyn yw catalogau sioeau amaethyddol, sy'n adlewyrchu newidiadau ym myd amaeth gyda chatalogau cynnar a dosbarthiadau niferus yn orlawn o geffylau gwedd tra bod catalogau diweddarach yn cynnwys mwy o ddosbarthiadau ar gyfer mnerlod bychain i'r plant.

Mi fyddai'r lle'n orlawn, nid yn unig o'r ffyddlon, ond hefyd o'r rhai eraill, dim ond i ymfalchio fod yr hen ŵr wedi bod yn eu mysg.

Bob yn ail flwyddyn cynhaliwn Cymanfa Ganu yn eglwys y Bedyddwyr yn y Ddinas pryd y bydd y capel yn orlawn.