Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ormes

ormes

Fe ddywed y Quran yn Sura 42, adnod 41: 'Nid yw'r sawl sy'n ymladd pan fyddant dan ormes yn euog, ond bydd Allah yn cosbi'r gormeswyr.' Deued y dydd.

Llethwyd y gwr hwn gan ormes ei ddelfrydiaeth ei hun.

nychu a'i gwasgu i farwolaeth gan ormes y pleidiau Seisnig.

Byd cyfaredd plant oedd iddynt cyn dod trafferthion arglwyddi gwlad yn ormes.

Wyddoch chi ddim beth yw byw mewn ofn, mewn caethiwed, dan ormes.

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

Sylfaenwyd chwi ar anghyfiawnder, ac ar ormes y meithrinwyd chwi.

Dyna broblem neu ormes y Cymydog Mawr, er enghraifft.

Ni fynnai'r rhan fwyaf o'r Cristnogion yn yr ail hanner o'r ganrif gyntaf gyflwyno Iesu'n elyn i Rufain, a hyn sy'n egluro'r ffaith nad oes yn yr efengylau ddim condemniad agored ar ormes Pilat ac ar gamwedd caethwasiaeth.

Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.

Rydym yn sôn am ddim llai na chwyldro os am herio a thrawsnewid canrifoedd o ormes, diffyg grym a gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg.