Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oroesi

oroesi

Mae'n anodd credu bod y dderwen yn ffurfio'r holl fes bob blwyddyn, a hynny dim ond i sicrhau eginiad a dat- blygiad un goeden i gymryd lle yr hen goeden wedi iddi oroesi cyfnod ei chryfder.

Dywedodd entomolegydd (person sy'n astudio pryfetach yn broffesiynol) wrthyf yn ystod un gaeaf caled fod y mathau sy'n gaeafu yn y ddaear yn treiddio'n ddyfnach fel y disgyn tymheredd pridd er mwyn ceisio amddiffyn eu hunain tuag at oroesi i dymor arall.

Oherwydd gwelai Rhigyfarch y Normaniaid yn ail-lunio'r clas yn Llanddewi Brefi; ac yn wir nid oes gennym dystiolaeth bendant i'r clas oroesi'r cyfnewidiadau a ddaeth yn eu sgîl.

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Wrth gwrs, effemeral yw ansawdd llawer o'r cyhoeddiadau hyn - ffurf sydd yn llai tebygol o oroesi na chyfrolau rhwymedig.

Gan mai gwartheg, wedi'r cyfan, sydd piau'r ffordd fawr, mae rhywfaint o ras i fodau dynol oroesi ar eu dwydroed hefyd.

Mae'r rhai hynny wedyn yn fwy tebygol o oroesi ac atgenhedlu eu defnydd genetig.

Os yw'r iaith i oroesi rhaid iddi feddu ar nifer helaeth o sefydliadau o bob math i'w chynnal, sefydliadau a fydd yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd ac sy'n creu rhwydweithiau cymdeithasol heb ddibynnu ar yr uned bentrefol.

Roedd y sefyllfa'n drist ond, fel y dengys yr Athro Glanmor Williams, ceir tystiolaeth i rai eglwysi oroesi Oes y Normaniaid.

Cafodd niweidiau mor ddifrifol dim ond un siawns mewn deg a oedd ganddi i oroesi.

Does yna ddim all e wneud yn ystod y mis nesaf i wella'i gyfle ef o oroesi, heblaw am chwyddo pleidlais Llafur yn gyffredinnol.

Bydd yn rhaid wrth gydweithrediad i oroesi.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Tu mewn mae'r chwe briger a'r pistil hefyd yn las, a'r unig liw arall a welir fydd y paill melyn.Fe gynhyrchir hyd man tywyll, ond mae bwlb dan y pridd a gall oroesi'r gaeaf felly.

Prinnach oedd unrhyw feirniadaeth a'i bryd ar amlygu pwysigrwydd ysgrifennu o'r fath os oedd y Gymraeg i oroesi'n gyfrwng llenyddiaeth a fyddai'n berthnasol i'r ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru'r ugeinfed ganrif," meddai.

Byddai'n rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro technolegol newydd ac o gynllun y Llywodraeth i sefydlu pedwaredd sianel deledu os oedd i oroesi yn y byd modern.

Roedd eu gallu i oroesi fel haid hefyd wedi ei danseilio'n llwyr.

Roedd gan Eglwys Llanddewi Brefi well siawns i oroesi nag Eglwys Llanbadarn Fawr.

Ond er cydnabod anorfodrwydd goddrychedd beirniadaeth, mae rhai nodweddion sydd heb fod, hwyrach, yn wrthrychol mewn ystyr wyddonol, ond sydd eto mor gyson gyffredin i weithiau sydd wedi eu profi eu hunain yn abl i oroesi pob barn a chwaeth a mympwy, nes mynnu eu lle fel anhepgorion.