Gan mai yn enw Cadair Morgannwg y cynhaliwyd yr orsedd gyntaf, sef gorsedd Llundain, priodol felly yw agor yr hanes trwy sôn yn gyntaf am orseddau cynnar y Gadair honno yn Llundain ac ym Morgannwg ei hunan.
Cynhelid gorseddau gan ddilyn y defodau a arferid gan Iolo Morganwg yn ei orseddau cynnar ac, yn unol â'i gyfarwyddyd, yn enw Cadair neu Dalaith arbennig gan amlaf, ac o leiaf dri pherson lleol a oedd eisoes wedi'u hurddo'n Feirdd yn llywyddu'r gweithgareddau.