Mewn rhan arall o'r un chwarel roedd yna gymeriad arbennig yn canlyn ceffyl ac un diwrnod aeth i swyddfa'r chwarel i weld y prif oruchwyliwr i ofyn am godiad yn ei gyflog.
Wrth ddod o'r twll (sef y tan ddaear) un bore ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabl ato a gofyn: "Sut fwyd wyt ti'n 'i roi i'r ceffyl ma?" Atebodd hwnnw: "Tebyg i fwyd labrwr." Cymeriad arall oedd Wil Lloyd Penbryn ac ar un adeg yn gweithio hefo dau o'i geffylau yn un o chwareli'r ardal.
Roedd Wil yn anfodlon iawn ar y pris yr oedd yn ei gael am ei lafur ef a'i anifeiliaid, ac aeth i ben y prif oruchwyliwr, - a oedd yn Sais uniaith, - i ddadlau am godiad yn y pris.