Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ostwng

ostwng

Yn ôl Griffiths dylai'r Gymdeithas ostwng nifer y seddi yn y stadiwm newydd - a pheidio bod yn or-uchelgeisiol wrth adeiladu stadiwm newydd.

Fodd bynnag, yn ymarferol nid yw'r sefyllfa yn un mor syml gan fod y corff weithiau'n adweithio i ostyngiad mewn cymeriant egni (bwyd) trwy ostwng y cyfradd y mae'n defnyddio egni (cyfradd metabolig).

Yn y lawnt parhaol torrwch y glaswellt yn is drwy ostwng llafnau'r peiriant torri.

Mae'n enghraifft o fenthyciad i'w osgoi ar bob cyfrif os oes unrhyw siawns y gall eich incwm ostwng.

Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.

Aelodau Seneddol yn cytuno i ostwng oed caniatáu cyfathrach wrywgydiol o 21 i 18.

Yn syml, os ydych eisiau colli pwysau, gallwch naill ai ostwng eich cymeriant o egni (h.y.

Ni fedrai gweision cyflog heb gyfalaf, heb fuddsoddiad mewn cymdeithas, fod ag unrhyw deimlad o ymrwymiad, tra tueddai cystadleuaeth y farchnad rydd i ostwng nifer y cyfalafwyr i rif llai a llai o ŵyr gor-gyfoethog.

Maen nhw'n gobeithio gallu llwyddo i ostwng y lefel unwaith eto.

Er enghraifft, gall godi neu ostwng pwysedd gwaed yn ôl y galw, a hefyd leihau neu gynyddu lefel y siwgr yn y gwaed.

Dywedodd cwmni Corus, sydd bia'r gwaith yn Llanwern, eu bod wedi llwyddo i ostwng y lefel oedd yn cael ei gollwng 10% y llynedd.

'Fe allen ni ostwng safon a mynd lawr i gynghrair y BNL ond fydde'r gost ddim llawer llai.