Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ots

ots

'Mae bob amser yn neis sgorio cais, ond 'sdim ots da fi pwy sy'n sgori'r ceisiau.

'Rydym wedi ein cyfiawnhau, felly 'does dim ots ein bod wedi pechu, a 'does dim ots am y canlyniadau.

Does gan y darllenwr ddim ots beth fydd eu ffawd oherwydd eu bod mor debyg i gymeriadau llachar gêm compiwtar, ond efallai mai dyna'r bwriad.

Doedd Mam ddim wedi dweud peth clên o gwbl amdanon ni, Doedd dim ots gan Robat John ond roedd ots gen i.

Nid fod ots ganddo i bob golwg.

Beth yw'r ots?' sgrechiodd y gath.

Beth oedd yr ots iddi hi beth a ddigwyddai yn y Sir nac yn y dref o ran hynny.

Mae'r sŵn mor uchel nes bod pawb yn ei glywed, dim ots ble maen nhw na beth wnaethon nhw.

Doedd hyn ddim am ennill ffrindiau i ni yn y Swyddfa Dramor, ond pa ots?

Doedd dim ots gen i bellach am ddim - ac ni phoenwn am ddod oddiar y lifft.

Pan geisiodd Owain ddwyn yr achos gerbron seneddwyr Lloegr chwarddon nhw am ei ben a gofyn, 'Beth yw'r ots gennym ni am y corgwn troednoeth hyn?' Ond roedd Owain yn llawer mwy na rhyw gnaf o wrthryfelwr Cymreig.

"Roeddech wedi gadael chwarter o'r cyfan i'w brawd, Miss Jones.' 'Dim ots am hynny, Miss Roberts.

Daeth yn amlwg fod nifer o Gymry Cymraeg yn barod i gydweithio â'r Torïaid -- dim ond iddyn nhw gael arian i gynnal Sianel Gymraeg, y Steddfod, rhywfaint o ysgolion Cymraeg a'r Quango ei hunain, doedd dim ots am ryddid i Gymru a bywyd i'w chymunedau lleol.

Sut bynnag, yn y gornel roedd un sedd lle gallai e eistedd, ac er bod rhaid iddo rannu'r bwrdd gyda rhywun arall, doedd dim ots ganddo fe oherwydd roedd arno eisiau rhywun y gallai siarad ag e tra roedd yn bwyta.

Ond a oedd ots?

Ei agwedd 'dam ots am neb'?

Does dim ots os nag wyt ti.

Wel, sdim cymaint o ots am hynna, nag oes?

Dim ots faint o fwyd wna i ei baratoi ar gyfer fy ngwesteion, hyd yn oed petawn i'n gorchymyn gwneud digon o fwyd am flwyddyn, os na fwytawn ni o i gyd y noson gyntaf, ni fydd yna'r un briwsionyn ar ôl fore trannaeth.

'Beth yw' ots?

Dim ots faint o weithiau ddwedes i na, 'roedd pob un ohonynt yn bendant ein bod wir angen tacsi.

Ond gallwn innau, hyd yn oed, fforddio soffa ac, fel y Myrc yn y stori, yr oedd gan honno hefyd bedair olwyn pe byddai hynny o ots i neb.

Ond doedd dim ots ganddo yn y bôn sut gi a gâi, er y byddai'n well ganddo beidio â chael chihuahua gan ei fod o'n amau ai ci go iawn oedd hwnnw, ynteu lygoden o fath arbennig.

Gwyddai na fyddai Llio yn falch o glywed hynny ond ar hyn o bryd oedd dim ots ganddo fo o gwbl.

Pa ots?

'Dim ots gen i,' meddai'i frawd.

Dim ots.

does dim ots, " meddai wrthi hi hun, fe af i i'r'r.

Dim ots, byddai'n dweud wrth Jenny.

Fe wyddai mai tynnu arno yr oedd hi, ond pa ots?' A dynes de'n dod â fo am y nesa peth i ddim cyflog.' Caledodd ei lygaid.

Dim ots os yw eich llyfr y peth mwyaf syrffedus dan haul o ran cynnwys - cyn belled âi fod yn lliwgar ac yn swmpus mi fydd yr adolygwyr wedi eu plesio.

Doedd dim ots mod i'n cymryd pum gwaith gymaint i gyrraedd, na mod i'n llithro wrth fynd, na mod i'n cyrraedd wedi blino'n lan ac yn dioddef clymau gwythi.

Yr oedd ots gan Huw, achos roedd Kelly Mair yn rêl ceg, a byddai'n siŵr o ddweud wrth bawb yn y dosbarth.