Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

owns

owns

Mae mwy a mwy o bobl yn dod nol at faco rhydd," meddai wrth bwyso owns o faco wedi ei dorri'n ffein.

Prin iawn, bellach, yw'r siopau sy'n dal i werthu baco rhydd ac yn ei bwyso allan bob yn owns ar glorian fechan hen ffasiwn.

Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.

Yna, tuag wythnos cyn plannu'r tomatos, gellir taenu gwrtaith cyffredinol, yn ôl dwy owns i'r llathen sgwâr, ar yr wyneb a'i gribinio'n ysgafn i'r pridd.

Rwy'n cofio'n glir cyrraedd Montreal yng nghanol storm drydanol enbyd, a gwres llethol ar ben hyrmy yn`sugno pob owns o- ~nni oedd- yn y corff.

Câi ddigon o ddþr i'w yfed, a deuddeg owns o fara brown, yn sgwariau bychain, deirgwaith y dydd.

Dogn caws yn cael ei dorri i 1 owns yr wythnos.

Ond ar ôl dweud hynny, 'roedd yna sail synhwyrol i'w cyfarwyddyd nesaf: Cymerwch Nitre a Cream of Tartar, dwy owns o bob un: Epsom Salts, hanner pwys.

Mae'n arferiad gennyf roddi tair owns o'r halen Epsom mewn peint o ddwr claear i'r fuwch rhyw wythnos cyn ei hamod, gan fy mod yn meddwl ei bod yn well osgoi trafferth na'i gyweirio!

Oedd, roedd yn bum pwys os oedd o'n owns!

"Who owns the swanc power boat by the name Fireballs?" meddai Sam yn ei acen Saesneg orau, gan gymusgu ychydig ar yr enw.

'Acts as if he owns the place, don't he, that friend of yours?' ychwanegodd wrth Gethin.

Slipiodd William Huws hanner owns o faco'r Brython i law ddisgwylgar gyrrwr y bus a chafodd yr ateb a ddymunai.

Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'

Dyna pam y gwnaed yr awdur, JK Rowling, yn aelod er anrhydedd o'r BWMA - British Weights and Measures Associaction - cymdeithas sydd a'i bryd ar ddiogelu'r peint a'r chwart a'r pwys a'r owns.