Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pabydd

pabydd

Oblegid, yn Shillong, mae'r Hindž o Bengal, y Presbyteriad Cymreig ei osgo, a'r Pabydd Gwyddelig ei addysg, yn cerdded yr un strydoedd â'r Casi sy'n cofio'r Fam Oesol a roes fod i'r llwyth y mae yntau'n perthyn iddo ers cyn co'.

'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.

Ac wele, tua'r adeg yr oedd y Pabydd Polydore Vergil yn ymosod ar Sieffre am balu ei chwedlau celwyddog am wreiddiau'r Brytaniaid, yr oedd rhai o flaenoriaid y Brotestaniaeth wrth-Rufeinig a fabwysiadwyd gan y Saeson yn bwrw iddi i ail-lunio hen hanes yr ynys hon, yn y fath fodd ag i ddangos fod yma, ym Mhrydain Fore, eglwys apostolaidd bur, eglwys gyn-babaidd ddi-lwgr.