Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

paganaidd

paganaidd

Ni fyddai modd disgwyl i genedl felly fod yn fodlon addoli'r Groegiaid paganaidd fel patrwm o wareiddiad a phrydferthwch.

Mae'r llinellau o gerrig yn Karnag yn debyg i rengoedd o filwyr ac yn ôl un stori, byddin o filwyr paganaidd yn bygwth un o'r hen seintiau Celtaidd oeddent yn wreiddiol.

Erbyn heddiw mae yna elfen o'r paganaidd yn ogystal â'r Cristnogol yn rhan o'n ffordd ni o ddathlu'r Nadolig.

Mae'r arferiad o addurno'r tai gyda phob math o ddeiliach fythwyrdd yn mynd yn ôl i'r oesoedd paganaidd pan oedd pobl yn cael eu hudo gan y coed fythwyrdd oedd yn ffynnu fel pe baent o dan rhyw ddylanwad hudol yn ystod hirlwm y gaeaf pan oedd pob dim arall yn ymddangos yn farw.

Gan fod y Celtiaid paganaidd yn addoli'r meini ac yn eu cyfrif yn gysegredig, bu'r seintiau'n ddigon call i beidio â dinistrio'r cerrig ond eu troi at bwrpas Cristnogaeth drwy naddu croesau arnynt.