Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pam

pam

Pam?

Dyna pam y penderfynwyd ar unedau hyfforddiant mewn swydd cymharol fyr yn hytrach na llyfr.

Un diwrnod, gofynnodd i un o'r plant: 'Pam wyt ti'n rhoi mynydd i mewn ym mhob darlun 'rwyt ti'n wneud?

Pam na chynhwysir yr un egwyddor at y Gymraeg a'i llenyddiaeth?

Nid wyf eto wedi gallu meddwl am unrhyw reswm pam mae'r silia o badiau gwahanol wedi eu trefnu mewn parau fel hyn.

'Hefyd, o'n i'n meddwl i sawl cic gosb fynd yn ein herbyn ni ac o'n i ddim yn deall pam.

Pam felly bod gwrthwynebiad?

Pam?' 'Mi weli Emrys a'i fam a'i chwaer yn 'i mwynhau hi, ond maen nhw wedi hen arfar hefo'r blas.

Os yw anghyfarwyddo a dieithro yn rhan o arddull Robin Llywelyn ni ddylai hynny fod yn esgus pam y mae'r un sy'n dehongli ei waith yn gwneud hynny hefyd.

"Pam na fuasech chi wedi gwrando arnaf i?

Dyna pam y dwedodd Graham Henry taw Lloegr yw'r ail wlad gryfa yn y byd y dyddiau hyn, drwch blewyn y tu ôl i Awstralia.

Deddf a fyddai yn cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru, yn ymestyn i'r sector breifat (dyna pam y targedwyd blychau ffôn BT) ac a fyddai yn effeithio hefyd ar faes technoleg gwybodaeth.

I Ankst, mae delwedd y cynnyrch a aiff i'r siopau yn bwysig; dyna pam y maent yn mynnu cael cloriau lliw llawn, yn y gred bod rhaid apelio at y llygad yn ogystal â'r glust.

oedd un o'r rhesymau pam y gwelwyd symud i'r chwith ar gychwyn y 1980au (fel digwyddodd gyda gweddill y mudiad cenedlaethol yr adeg honno) a dechreuwyd canolbwyntio ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n ffurfio cyd-destun iaith, gyda sylw cynyddol ar faterion fel tai a thwristiaeth.

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

Pam roedd rhaid i ferched fod mor annifyr bob amser?

Dyma pam yr oedd felly.

Dyna pam roedd o'n sleifio i weld y fuwch dan sylw bob awr o'r dydd a'r nos ac yn sbecian trwy hollt yn nrws y beudy rhag rhishio'r fuwch.

Pam na fasech chi wedi gofyn i mi ddod gyda chi?" "Roeddwn i'n amau eich bod chi'n cysgu..." "O, siŵr, fe fydda i'n syrthio i drymgwsg cyn gynted ag y bydd 'y 'mhen i ar gobennydd.

Pam felly y cafodd pentref cyfan enw un aderyn?

Yn ddiweddarach, fe'i holodd ei hun yn dwll = pam y bu mor uffernol o lipa?

Pam nad yw'r nofel yn gwneud fawr mwy nag enwi'r gwir wrthddegymwyr - Ffranc Bryan y Bryniau, John Jones y Rhos Uchaf a Samuel Jones y Tŷ Glas?

Dyna pam, mae'n amlwg, nad oedd y capel yn ganolfan gymdeithasol i'r teulu.

Pam lai clwb Judo, aerobics, cadw'n heini, clybiau ieuenctid, Sgowtiaid, dosbarthiadau nofio etc yn Gymraeg?

Wnes i ddim meddwl pam yr oedd arna'i isio'i beintio fo.

Pam na allai hi dderbyn rhodd yn dawel?

Pam mae rhai solidau yn dargludo gwres yn hawdd tra bo eraill yn ynysyddion?

"Mae yna nifer o resymau, pam fod cwmnlau yn dechrau dod yma ...

Ond weithiau yr ydym am wybod mwy am pam yn union y ceir yr amrywiadau hynny.

A dyna pam y dywedwn ei fod ym mlynyddoedd cynnar ei weinidogaeth yn fath o eni~,ma i lawer, ac edrychent arno â gradd o amheuaeth.

Pam, tybed?

Pam y penderfynwyd defnyddio argraffiad Charles ac Oliver sy'n malurio'r testun gwreiddiol yn enbyd?

Mae sylweddoli mai dyma'r cefndir yn help i werthfawrogi pam y mae symudiad ychydig o bobl ddi-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg yn creu argyfwng.

Dyma un arall o'r erthyglau na chafodd eu hailgyhoeddi, ac mae'n hawdd deall pam, gan fod ynddi ambell osodiad a fuasai'n anathema i'r Saunders Lewis diweddarach.

Pam gebyst na fuaset ti wedi derbyn yr ysgoloriaeth honno mewn theatrical design y cefaist ei chynnig i fynd i un o brifysgolion America pan oeddet ti'n ddwy-ar-bymtheg oed?

Mae'n cynnig rhai atebion i'r cwestiwn "Pam?" yn hytrach na "Phwy?" ac yn ddwy awr o fyfyrdod digon boddhaol ar gwestiwn llosg (sori, mae nhw'n slipo mas ambell waith).

Llyfr lluniau yw hwn yn y bon, yn dangos taith Pam a "Fi" o gwmpas y fferm.

I mi, felly, dyna pam fod yr albym yma mor siomedig.

pam y mae lyn jones yn fwch dihangol unwaith eto?

'Dwn i ddim pam, ond roedd o'n cael rhyw foddhad sadistaidd yn fy mhoeni.

Pam na wnewch chi ymuno i dderbyn cylchlythyr e-bost y Gerddorfa?

A dyna pam yr oedd Malcym yn gorfod cario pwcedeidia o ddŵr o'r tap yn y sied ddefaid ar draws yr iard i'r camal sychedig yn y beudy.

Yn bwysicach, pam y gadodd i'w blant gael eu magu'n Saeson?

Dyna pam y mae Menem wedi rhyddhau'r rhan fwyaf o'r milwyr a gafwyd yn euog ar ôl y 'rhyfel brwnt' yn erbyn y bobl yn ystod dyddiau'r juntas.

Dyna pam mae'r pysgodyn yn drewi cymaint." "Pam na fuasai'n dod yma i'w gario i ffwrdd neu i'w symud?

D'wn i ddim pam y meddylient hyn onibai mai fi oedd y dyn lleol.

Pam Betsan felly?

'Wel,' meddent, 'pam na ddylai criw bach gael eu hiaith a'u diwylliant eu hunain; mae e'n digwydd ym mhobman yn yr India.' Doedden ni a'n hiaith ddim yn un o ffeithiau ysgytwol bywyd iddynt mae hynny yn sicr.

Pam y dewisiad yma 'dwy ddim yn gwybod.

Dyna oedd yn egluro pam yr oedd o wedi bod yn cysgu yn ei ddillad ers wsos ag un goes allan o'r gwely!

I gael gweld pam y mae Llwyd yn rhoi "Dan.

pam dydych chi ddim yn gofyn i betty parker?

Ni ddëallir pam nad yw eto wedi cael ei ffrwyno neu ei ladd yn dilyn y 'Dangerous Dogs Act'. Act I

Nid oedd yn deall pam, yn iawn, ond dilynodd gyfarwyddiadau Llefelys yn fanwl.

Pam y mae hon mor eithriadol o bwysig?

O, oedd, - roedd ganddi le i boeni am hynny, roedd angen rhyw garnau newydd ar y brêcs, ond pam ddylai o boeni, gadawai bethau felna i'r peirianwyr.

Mae pobl yn gofyn yn aml iawn, "Pam 'r ydych wedi ymdrechu mor galed i roi bywyd a gwedd newydd ­ Lanaelhaearn?" Credaf y gallaf roi crynodeb mewn dau baragraff fel ateb i hyn.

Oherwydd - a dyma fanylyn chwerthinllyd, ond pam ddylwn i ei hepgor fod y stryd lle roeddem ni'n sefyll wyneb yn wyneb heb asffalt arni.

Eto i gyd, doedd cael ei wrthod ddim yn beth neis, yn enwedig heb wybod pam.

Roedd yna gyfnodau pan oedd rhywun yn meddwl, fel Cristion, pam fod hyn yn digwydd.

Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.

Pam nad oedd o eisiau clywed am hwnnw?

Pam na wnewch chi ymuno i dderbyn cylchlythyr e-bost y Gerddorfa ? Mae'r rhai sy'n derbyn y cylchlythyr yn manteisio drwy gael gwybodaeth a newyddion wythnosol, manylion am y cynghreddau a digwyddiadau arbennig, gwybodaeth am newidiadau a chyfle i brynnu newyddau newydd y Gerddorfa.

'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.

Cerddodd yn araf tuag ataf "Pam na fasech chi'n dwad i eistedd efo mi yn y sedd flaen?" "'Roedd yn well gen i fod o'r golwg.

Edrychodd arno gan geisio dyfalu pam roedd Edward Morgan wedi ei adael yno.

"Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun.

Yn ôl yr enillydd Gwobr Nobel, Dr James Watson, y mae rhesymau gwyddonol da pam y mae merched tewion yn hapusach na rhyw styllod fel Kate Moss.

Siaradodd Ef â mi yn nyfnder fy enaid: 'Pam wyt ti'n drist?' ebe Ef.

Dyna enghreifftiau yn yr oes 'oleuedig' hon o rai pethau na ddylem eu gwneud oherwydd eu bod, meddir, yn anlwcus, er nad ydym yn rhyw siwr iawn pam.

Mi fedra i ddeall pam.

Gyda Barry John yn hynod hael ei ganmoliaeth i Arwel Thomas yn dilyn y gêm yn erbyn Samoa yr oedd yn anodd deall pam y bu Graham Henry mor grintachlyd â disgrifio perfformiad y maswr bach fel adequate yn unig.

Pam an allai ei weld yn hofran uwch ei phen?

Pam?

Dyna pam yr ymddiddorant yn ein hymdrechion ni i ennill deddf iaith gryfach i'r Gymraeg, ac i ail-sefydlu'r iaith ym mywyd pob dydd.

"Pam na fuaswn wedi ffonio'n gynt?

Er ei bod hi'n anodd egluro pam, mae'r gân hon yn atgoffa rhywun o arddull Doves – grwp poblogaidd iawn yn ystod y flwyddyn 2000 – ac mae hi'n eithaf gwahanol i'r hyn sydd wedi cael ei rhyddhau gan Zabrinski yn y gorffennol.

Duw a ŵyr pam y poenai amdani.

Yn amlwg, mae yna reswm pam fy mod i wedi dechrau ymddiddori, a bron na fyddwn i'n dweud mai cerddoriaeth ddawns sy'n gyfrifol am hynny.

Pam roedd cymaint o'r Cymry'n barod i gefnogi Owain Glyn Dwr; i fentro eu bywydau i ymladd dros yr arglwydd hwn o'r Mers, heb wybod fawr amdano?

Pam, dudwch?

Ac yn wyneb yr hyn a ddywedwyd gynnau, mae angen esbonio pam yr oeddem ni, aelodau Adain Chwith y Blaid megis, yn anesmwyth am y polisi - neu'n gywirach, am y mynegiant arferol ar y polisi: teimlo'r oeddem fod y mynegiant hwnnw'n gwneud cam â hanfod y polisi.

Y mae hi'n briodol dweud mai un o'r rhesymau pam y llwyddodd y Gymraeg i oroesi cyhyd yw am ei bod wedi llewyrchu am flynyddoedd lawer rhwng cloddiau amddiffynnol rhai peuoedd (domains) arbennig a fu'n noddfa gadarn iddi.

Yn naturiol gallai'r cardiau lithro ar fwrdd o'r fath neu gael eu hadlewyrchu ynddo, dyna pam mae defnydd gwyrdd ar fwrdd cardiau mor boblogaidd.

Bu Dumps, Sharon Slag, Rhys, Ifs ar criw yn llwyddiant mawr yn Pam Fi Nady Fe? gan ddenu cynulleidfa fawr.

Mae ef newydd fod ym Mharis i ddweud wrth bawb ei fod yn mynd yn ôl i Gymru i hawlio ei deitl a'i ; diroedd fel Tywysog 'Ond pam ddylai'r milwyr Ffrengig hyn ymladd dros Owain, gofynnwn.

R'yn ni'n trio gwitho'n galed a joio hefyd." Mae Rhys Evans sy'n actio'r prif gymeriad ar y llwyfan bron trwy gydol y perfformiad - dyna pam yr aeth Laurel Davies am ddisgybl chweched dosbarth ar gyfer y gwaith.

'Pam, neno'r annwyl?'

Pam dyfynnu'r Llyfr Gweddi yn Saesneg?

Cyngor y Celfyddydau sydd wedi bod yn gofalu am y ddrama - biwrocratiaid di-weledigaeth ydyn nhw, mae arna i ofn, a dyna pam rydyn ni yn y sefyllfa yma.

Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.

Pam mae solidau fel alwminiwm yn plygu yn rhwydd ond nid felly haearn bwrw?

'Pam fi?' gofynnodd.

Yr unig reswm arall pam y'u galwyd nhw yno, oedd i chwerthin ar un jôc amlwg yn araith Mr Blair, a chlapio ar ddiwedd ei gyfraniad.

Ymunodd darlledwr BBC Radio Wales a'r cyflwynwr teledu, Roy Noble â'r gyflwynwraig reolaidd, Pam Rhodes.

Mae'r 'orders' yn dod o'r top, Doctor, oherwydd mae'r gwaith sy'n cael 'i neud yma'n bwysig iawn - yn holl-bwysig os daw rhyfel." "'Dwy'i ddim yn siŵr iawn pam y ces i alwad i ddod 'ma..." "Proffesor Dalton - ein prif wyddonydd ni 'ma - ofynnodd amanoch chi'n bersonol.

Dyma pam roedd hi mor swta ac annymunol.

Trosglwyddwyd cyfres hynod boblogaidd S4C i bobl ifanc, Pam Fi Duw? yn llwyddiannus iawn i'r radio.

Hwyrach mai dyna sy'n esbonio pam y mae'r dilyniant yn aeddfetach nofel na'r un gychwynnol; rhyw ffureta o gwmpas a wnâi Harri'r myfyriwr yn ymhe/ l â maes nad oedd yntau'n fwy na'r nofelydd a'i creodd yn gwbl o ddifri ynglŷn ag ef.

Os ydi cynhyrchydd yn dweud 'Dwi isio cadair yn fama', rydach chi'n deud 'Pam?' Mae o neu hi'n deud wrthoch chi; iawn, dyma'r fath o gadair wnawn ni'i rhoi - oherwydd mae hi o fewn yr iaith weledol o'n i'n sôn amdani gynnau...