Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pandy

pandy

Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.

Rydw i'n eu cofio nhw i gyd: Hugh Cae Haidd, Wil Pant, Shem Pandy, Wil Jones Happy Valley, Ifan Morgan, Ellis Nant, Wil Thomas Bryn Hyfryd, Rolant Gruffydd Felin Hen a William Ifans Glasgoed.

Agofion am Bentraeth - Y diweddar Mrs Martha Parry Teulu'r Pandy, Pentraeth Yr oedd yn y Pandy dri o blant, dwy ferch a mab a ddaeth yn enwog fel canwr, a dwyn clod i'w deulu a'i ardal a Chymru.

Rhedodd y merched o'r naill dž i'r llall i baratoi ar gyfer y cymortha a gynhelid heno ym Mhlasgwyn i helpu gweddw Guto Pandy.

Gelwir y dyfnant coediog hwn, a'r Rheilffordd o Gaerwen i Amlwch yn dilyn ei llwybr, yn The Dingle, ond 'does dim dwywaith mai ei henw gwreiddiol oedd Nant y Pandy." Enw arall ar y rhan hon o'r dyffryn, ac un hynod o addas ag ystyried sut y'i crewyd yn y lle cyntaf, oedd Nant y Dilyw.

Mae un pwll uwchlaw'r Pandy sy'n dwyn yr enw rhyfedd Llyn Sbwnyn.

Yr oedd yr afon ar un adeg yn gyrru nifer go dda o felinau ac am hynny enw arall arni sy'n dal i gael ei ddefnyddio'n gyffredin yn yr ardal yw 'Afon y Pandy'.