Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

para

para

Er nad ydynt yn para'n hir iawn, maent yn eithaf cadarn.

Byddai'r trin a'r trafod yn para am ryw ddwyawr a hanner i deirawr, yna fflud ohonom yn ffaglu am fwyty'r Harpers.

Prin yw'r manylion, gyda'r paent wedi ei roi'n gyflym a rhwydd, peth sy'n rhan o awgrymu darfodedigrwydd yr olygfa a'r brys i'w mynegi tra mae'n para.

Efallai i'r ymerodron hyn gredu y gallent orchfygu angau trwy godi cofadeiladau anferth iddynt eu hunain, a fyddai'n para wedi iddynt hwy orffen eu dyddiau ar y ddaear.

Ac yn peri i minnau feddwl; nid yn unig i lawer iawn mwy na Saith Seithug Mr Hague fod yn gwyntor mygau melys ond i ryfeddu fod yr effaith yn para cyhyd.

Ond pa mor hir fydd yr hyder newydd yn para a Mr Redwood yn dadbwytho'r consensws brau?

Mae yna le o hyd felly i ganu traddodiadol yng Nghymru ac mi fydd y cystadlu ar y llwyfan nos Sadwrn yn para tan yr oriau mân.

"Wnaiff didoli'r papura ddim para am byth,' ychwanegodd hithau gan deimlo'i hawgrym yn pwyso'n dunelli ar y stafell.

Mae gemau'r rownd gyn-derfynol dros 33 ffrâm ac yn para am dridiau.

'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.

Yn anffodus does unman i'w roi ond tu allan ac felly ni fydd e'n para yn hir er ei fod yn newydd ar y funud.

Dyna pam mae'n hymgyrch ni yn para dros blwyddyn a hanner.

Y gwahaniaeth oedd fod gan y llenorion Cymraeg draddodiad a oedd yn para'n ir yn y cof hyd yn oed os ydoedd mewn gwirionedd ar drai.

Ond sut y mae'r Gymraeg wedi para mor hir yn wyneb y fath fygythiad cyson a phwerus?

Roedden ni'n hwyr iawn yn cael bwyd am fod y ffrae wedi para cyhyd, ond roedd yn werth aros am y pryd am fod Dad wedi mynd yr holl ffordd i%r dref i nôl tships i ni.

Os yw dechrau Awst yn boeth, bydd eira'r gaeaf yn para'n hir.

'Wnaeth Richard Pearson ddim para'n hir, druan bach.

Nid yw swigod yn para'n hir iawn oherwydd bod dŵr yn anweddu o'u harwynebedd.

Oherwydd wedi'r holl siarad, y dylanwad sy'n para, ac mewn rhyw ffordd gyfrin, mae'r dylanwad yn ffurfio cymeriad dyn, yn rhoi iddo argyhoeddiadau ac yn bathu ei bersonoliaeth.

Gan nad yw eu heffaith yn para'n hir iawn, rhaid bwydo gwrteithiau hylif i blanhigion yn gyson yn ystod y tymor tyfu.

Hysbysebwyd yr alldaith, fel 'Profiad cryfhau cymeriad, sydd yn creu cyfeillgarwch sydd yn para oes'.

Symudol yw'r boblogaeth nawr, ac er fod y newydd-ddyfodiaid, yn Gymry a Saeson, yn fwy amharchus o'r Sabath na'r oes o'r blaen, eto y maent hwythau yn parchu cymdogaeth dda ac y mae'r ddisgyblaeth gymdeithasol yn para yn ei grym.

Bydd Datganiad o Angen Arbennig (DAA) yn aml yn nodi bod angen mewnbwn sylweddol, addysgol oddi wrth therapydd llafar, cynorthwydd dosbarth a staff para-addysgol tebyg.

Mae'r etifeddiaeth oddi wrth ei rieni yn para i'r genhedlaeth nesaf, ond mae dylanwad yr amgylchedd yn marw gydag ef.

Ac mae para gyda theulu a ffrindiau da yn fraint uwchlaw dirnadaeth dyn...

Roedd o'n ei hadnabod hi'n ddigon da i wybod na fyddai ei ffit o dymer yn para'n hir.

Madog yn para i ddod i'r eglwys yn gyson ac yn cyfrannu'n hael, ac yn mynychu ambell i gyngerdd, a Luned yn cadw fwy neu lai i'r bwthyn.

mae sbloet o grio, meddai, yn para tua chwe munud ac yn digwydd, ran amlaf, rhwng saith a deg yn ystod y min nos.

Wrth gwrs, dydi hyn ddim yn para ac y mae Cruella yn fuan iawn ai bryd ar greu côt y mae angen crwyn 102 o Ddalmatians i'w chwblhau.

Dyma'r sylwadau a wnaeth y rhai llai na bodlon: Do, ond dim cymaint ar ail iaith ag ar yr iaith gyntaf (Powys); Roedd y ffeil yn wag pan y'i derbyniwyd ac mae'n para'n wag (Dyfed); A bod yn onest ni ches lawer o fudd o'r deunyddiau.