Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.
Gruffydd Parri lywyddai'r cyfarfod.Ar y llwyfan hefo fo yr oedd rhai o wyr parchus yr ardal.
Roedden nhw bob amser yn wir, a byddid yn gofyn amdanyn nhw gyda rhyw foesgarwch parchus, ac roedden nhw bob amser yn drist.
Oni fyddai'n well iddo fyw bywyd tawel, parchus yn helpu ei dad bob nos ac yn cadw'n glir o drybini?
Breuddwydiodd freuddwydion parchus heb sylweddoli mai'r rheini yw'r anoddaf i'w cadw.
Y genhedlaeth ifanc yng Nghymru fel yn yr Unol Daleithiau sy'n gweithredu o ddifrif, mewn ffordd gostus iddyn nhw eu hunain, i orseddu gwerthoedd uwch yn nhrefn ein cymdeithas; cilwgu arnynt gydag ychydig eithriadau a wna'r canol oed parchus sy'n proffesu ymlyniad wrth yr un gwerthoedd.
Gwir fod y teitl 'academi' wedi marw yn ystod y ganrif a bod y gair 'coleg' yn taro'n fwy parchus ar glust gwŷr oes Victoria - er, chwarae teg iddynt, parhaodd y gair 'athrofa' yn bur boblogaidd trwy ail hanner y ganrif.
Parchus gof am y cartre hwn ar y llechwedd wrth droed y mynydd o fewn ychydig o fewn ychydig o filldiroedd i Chile.
Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.
Cawsom ganddo dipyn o hanes ei ficer parchus, y Parchedig Oliver Evans, gŵr yr oeddwn yn gyd-fyfyriwr ag ef yng Ngholeg Llambed.
Gwnaed ymdrech unwaith i anwybyddu stori am aelod parchus o'r sefydliad yng Nghymru a gyhuddwyd o gyflawni trosedd cyfreithiol difrifol iawn.
A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.
Gwelwn y byddai i'r rhai hynny gael eu hennill gan fechgyn parchus a chefnog, y rhai a gawsai addysg dda ym more eu hoes.
Yr oedd crefydd hefyd fel hen ddodrefnyn parchus yn ei dŷ ef, ac nid yn ei dy ef yn unig, ond yn nheuluoedd ei blant a'i hiliogaeth hyd yn awr.
Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.
'Un noson dywyll, stormus, mae rhyw ūr parchus yn teithio adref yn ei gar, ar hyd lôn brysur ac yn gweld merch ifanc yn ffawdheglu.
Un hwyrnos, pan oedd Owen Owens yn dod i derfyn yr un stori, daeth fy mam a Miss Aster i mewn i'r gegin, a bu distawrwydd parchus tra gofynnodd fy mam i mi a awn i hebrwng Miss Aster adref, a dod 'nôl â rhyw waith gwnio roedd ei angen arnom drannoeth.
Rydw i wedi gweld rhai tebyg ichi o'r blaen, yn llawn delfrydau a syniadau rhamantus, ond wyddoch chi beth, erbyn iddyn nhw gyrraedd y canol oed parchus, y nhw ydi'r bobl fwyaf crintachlyd y gwn i amdanyn nhw, ac mi werthen nhw eu ffermydd i ladron tase'r pris yn iawn." "Ac felly, rhag ofn mai yr un fath y byddaf innau, dyma fi'n gwneud penderfyniad ynglŷn â Maes y Carneddau tra ydw i'n dal yn ifanc.
Yr agwedd gonfensiynol at Oes Victoria yw ei bod yn oes hynod gul a fynnai anwybyddu'r profiad rhywiol mewn llenyddiaeth ac esgus nad oedd yn bod ym mywyd y dosbarth canol parchus.
I rai haneswyr parchus roedd gwrth-Seisnigrwydd amlwg rhai o'r chwedlau hanes poblogaidd yn peri chwithdod.
Ei henw hi oedd Catrin ferch George ac o Groesoswallt y deuai'n wreiddiol, yn ferch i rieni tlawd ond parchus, yn ôl Morgan.
Cafodd ei hatgoffa ei bod yn dod o deulu parchus a'i bod wedi cael addysg ddrud o safon uchel.
Y tu mewn, roedd swyddogion llywodraeth a'u teuluoedd yn symud i'w seddi, gyda'r math o siffrwd parchus a gewch chi mewn digwyddiadau ffurfiol o'r fath.
Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.
Defod ymatal dynoldeb parchus ydi'r unig rwystr sy'n 'nghadw i'n ol y gwirionyn hiraethus fel ryw i.'
Llwyddodd yr amddiffyniad i grynhoi ynghyd gorff niferus o Gymry parchus Lerpwl ac o fyfyrwyr Cymreig.