Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pared

pared

Yr ydoedd proffwydoliaeth, y diwrnod hwnnw, a'i bwyntil yn argraph ar galchiad pared parlyrau y palasdai acw, - `Mene, Mene, Tecel, Upharsin!' Mene, - `Duw a rifodd eich brenhiniaeth, ac a'i gorffennodd.' Tecel, - `chwi a bwyswyd yn y glorian, ac a'ch caed yn brin.' Peres, `Rhanwyd eich brenhinaeth!' Ac erbyn hyn, y mae y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni mor gyflym ag sydd bosibl.

(Y miwsig yn ergydio drwy'r pared.) Mewn gwirionedd, y rheswm rw'i'n cadw'r lle'n daclus ydi am fod fy ffrind gore fi, Sara, hefyd yn hoffi pethe'n daclus.

Yn y llofft lle roeddynt hwy yn awr pwysodd Del ar y pared a rhoi ei llaw dros ei llygaid a chwyno fod yr holl wynder yn ei dallu.

"Oes gen ti fap a Phren mesur?" "Oes, dacw fo." Roedd map crand iawn gan Lludd yn hongian ar y pared.

Dim byd ond cysgodion, rhai ohonynt ar y pared.

'Hwyl,' sibrydodd Huw yn dawel fach wrth wylio cysgod ei frawd ar y pared.

Y mae hyn yn ormodiaith ond nid yw'n hollol am y pared â'r gwirionedd chwaith.

Bwrid pawb yn erbyn pared a drws bob yn ail.

Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.

Arweiniodd Marie y ffordd i fyny grisiau culion di garped, a'r lleithdra'n llifo hyd y pared noeth.

yn wir, mae'r cefnogwyr am roi croen y rheolwr, frank burrows, a'r cadeirydd, doug sharpe, ar y pared.

Yno, dim ond rhyw set ffilm o fynydd a wahanai ogledd a de, ac eisoes ynghanol y bore ysgubai afalansau cyson gannoedd o drodfeddi i lawr y pared gogleddol at lasier Porchabella.