Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parha

parha

Bu pwyso mawr arnaf i'w gadael ym Mangor, ond parhâu ar fy siwrnai'n dalog a'r cyfrolau dan fy mraich a wneuthum.

Ni ffurfiwyd eglwys yr adeg yma, ond parhâi'r rhai a addolai yn Stryd Henllan yn aelodau yn y Capel Mawr.

Parha i roi dy fendith ar ein canu cynulleidfaol ac ar ein cymanfaoedd.

Parhâi pobol i fyw wrth y stablau, ac ymhen blynyddoedd lawer wedyn dyma un yn digwydd sôn wrth Bill Parry am ddigwyddiad rhyfedd yno - eu bod wedi'u deffro'n ddiweddar gan oleuadau dros y lle, a hithau n ganol nos.

Parhânt hyd heddiw i gefnogi'r polisi o wario miloedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn ar arfau rhyfel i gynnal bri Prydain tra'n mynnu na ellir fforddio'r ganfed ran i amddiffyn iaith a diwylliant Cymru.