Mae ystyried dilyniant, parhad a chydlynedd yn y cwricwlwm yn elfennau holl-bwysig yn y broses o gynllunio ysgol-gyfan, er mwyn creu continuum addysgol i'r plant.
Hynny yw, amod cyntaf parhad bywyd cenedl yw bod ganddi ei gwladwriaeth ei hun i'w gwasanaethu.
ii) i ddechrau ffurfio canon o lenyddiaeth Gristionogol a wrthodai syniadau Gnosticaidd, ac a danlinellai'r parhad rhwng proffwydoliaeth yr Hen Destament a chenhadaeth Crist;
A = Parhad projectau cyfredol
Gyda dyfodol nifer o'r sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau dan fygythiad, bydd angen i'r cyllid a ddyrennir ar gyfer project gydnabod yr holl gostau sydd ynghlwm wrth ei gyflawni, er mwyn sicrhau parhad y ddarpariaeth o adnoddau i'r dyfodol.
Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a gorfod ailaddasu eto ar ôl y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd sôn am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar.
Yn gyntaf y mae parhad y diwylliant gwledig ac amaethyddol yng nghanu prydyddion fel Ifor Cwm Gwys, Rhydderch Farfgoch a'r brodyr Eiddil Llwyn Celyn a Chawr Dâr.
Mae angen sicrhau parhad cyfundrefn o'r fath yn y dyfodol er mwyn gweld cynnydd pellach yn y ddarpariaeth i ateb gofynion teg yr ysgolion.
i) i bwysleisio parhad dysgeidiaeth uniongred a gynrychiolid gan yr esgobion;
Yma byddwn yn ystyried parhad yr Eisteddfod fel gwyl gystadleuol.
I Ieuan Gwynedd a'i debyg, nid oedd eu gwrthwynebu yn ddim ond parhad o ymgyrch hir-dymor i sicrhau addysg deilwng i'r Ymneilltuwyr.
Ffrwythau byr eu parhad yw'r ffrwythau cynnar, ond rhai hirhoedlog sydd gan y gelynen.
Parhad o'r ymosodiad hwn ar gredo Cymdeithas yr Iaith yw mynnu nad 'brwydr' yw'r un dros y Gymraeg bellach, ac nad 'baich' o urhyw fath ydyw.
Dyma arwydd glir o sut i gymeryd cam cadarnhaol i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg - rhoi statws cynllunio i'r iaith Gymraeg, gan wneud hyn yn ffurfiol, ac yna mynd ati i ymchwilio i gyflwr yr iaith Gymraeg ym mhob cymuned.
Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.
Sefydlodd gylchgrawn ar gyfer rhai mwy llenyddol eu bryd, Y Llenor, ond byr fu parhad hwnnw.
Oherwydd parhad aeron y gelynen, mae'n talu weithiau i'r fronfraith fawr (neu gaseg y ddrycin) eu hamddiffyn rhag adar eraill a'u dogni drwy'r hirlwm.
Y mae newid yn golygu parhad ac mae unrhyw barhad yn ddibynnol ar ddidoriant symbolau.
Pan fabwysiadwyd llyfrau'r Hen Destament gan yr Eglwys Gristionogol yn dreftadaeth iddi, wrth gymryd yn ganiataol fod parhad rhwng crefydd yr Iddewon a Christionogaeth, fe dderbyniodd yn rhan bwysig o'r dreftadaeth honno y syniad Iddewig mai diben Duw yn cael ei weithio allan mewn amser yw hanes.
Haedda Ian Jones air o ganmoliaeth hefyd am ei redeg medrus ar yr asgell a'i barodrwydd i geisio sicrhau parhad symudiad.
Roedd diffyg awch yn chwarae Cymru, doedd dim parhad, lot o arafwch yn y gwaith adeiladu.
Yn y grwpiau oed ifancaf y gwelwyd y duedd fwyaf calonogol, lle'r oedd ffigurau 1991 yn dangos parhad yn y twf a gofnodwyd yn gyntaf ym 1981.
Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.
Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.
Y mae traddodiad politicaidd y canrifoedd, y mae holl dueddiadau economaidd y dwthwn hwn, yn erbyn parhad y Gymraeg.
Gyda'r holl sylw a roddir ar y cyfryngau i belydriad niwclear a'i effeithiau niwediol, hawdd iawn fyddai casglu mai dim ond gweithio yn erbyn parhad dynoliaeth a wna.
Achos sail yr hunan-lywodraeth hwnnw fyddai parhad eu rheolaeth hwy.
Cafwyd parhad mewn buddsoddiad yn y busnes i sicrhau bod staff cymwys ac offer priodol ar gael i gwblhau'r gwaith.
Sicrhau parhad yr hil yw'r rheswm am hyn, fel pe deuai gelyn o hyd i un ohonynt, byddai gobaith i'r gweddill.
Un o dasgau cyntaf Menter Cwm Gwendraeth pan lawnsiwyd hi dros flwyddyn yn ôl fel cynllun peilot i hybu'r laith yn y gymuned oedd meddwl am ffyrdd i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl Cwm Gwendraeth ynglŷn â phwysigrwydd a gwerth parhad y Gymraeg fel elfen annatod o wead a chymeriad yr ardal.