Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parhaol

parhaol

O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.

Wrth drafod y 'fortune and force of necessitie' yn ei gronicl gwelodd Syr John ei gyfle i ychwanegu rhyw gymaint o fri a gwrthydri at yrfa Maredudd yn y modd y bu iddo gryfhau ei afael ar Nanconwy yn fwy parhaol.

Yn y lawnt parhaol torrwch y glaswellt yn is drwy ostwng llafnau'r peiriant torri.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Technegol y derbyniwyd cwynion parhaol am y cyflenwad dŵr ar yr ystad uchod.

"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.

Ond wrth ystyried Elphin, ar y llaw arall, dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd a goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall.

Dyna ganlyniad arall y trais parhaol sydd ledled y byd.

bod i elfennau addysgol fel iaith a diwylliant werth parhaol i fywyd dinesig ar ôl gadael ysgol; Cydbwysedd - drwy amcanu i ymestyn y dysgu ymhellach na'r gofynion arholiadol ee.

Ymhob un o'r planhi- gion parhaol may yna stor o fwyd ar gyfer yn ail gychwyn pan ddaw'r gwanwyn yn ol i'r tir.

Er hynny, ni chofiaf erioed i mi ddarllen dim di-werth a ddaeth o'i law; i'r gwrthwyneb, gallai ysgrifennu am yr hyn a ymddangosai'n ddi-werth mewn ffordd mor fyw a deniadol fel na ellid ymatal rhag myfyrio ar ei gyfansoddiadau drosodd a thro, gan droi cylchgrawn dros amser yn drysor parhaol i'w anwylo.

Yn ffodus, ac oherwydd pwysau cyson a pharhaol o du'r undebau amaethyddol, mae'n fwy na thebyg y caiff gwaharddiad parhaol ar yr hormon yma gael ei gyflwyno maes o law.

Ymhlith y staff parhaol mae dros gan mlynedd o brofiad gweithio gyda chymdeithasau tai.

Er y byddwn yn sôn am Feirdd Ynys Prydain fel mudiad neu gymdeithas neu urdd, rhaid egluro yn y cychwyn cyntaf nad oedd iddo na swyddogion parhaol na chyfansoddiad cenedlaethol am tua chanrif.

Troes y canu ysbeidiol yn rhywbeth ychydig mwy parhaol, ond nid yn fwy soniarus.

Trwy ailadrodd y symudiadau o Lyn ddwy genhedlaeth yn ddiweddarach ym mherson Jane, mae Kate Roberts wedi creu argraff o newid parhaol, o gymdeithas ddiwydiannol newydd yn cael ei ffurfio trwy symudiadau pobl.

Os nad oes tanciau dwr parhaol ar fwrdd eich carafan (a dim ond yn y rhai mwyaf a drutaf y mae'r rheini), yna bydd raid i chi ymuno a gweddill y werin i gario'ch dwr iddi, a chario'r dwr wast yn ol i'r draen pwrpasol.

Gwaith CASA ydy ceisio datblygu ymatebion lleol i broblemau parhaol yn ogystal a cheisio deilio ag argyfyngau, gan ddefnyddio Cymorth Cristnogol, Oxfam etc.

A'r olaf o'r ystyriaethau ydyw'r lleihad parhaol ym maint ein diwydiannau cynhyrchu nwyddau gorffenedig - hynny yw, ein sylfaen diwydiannol.

roedd amryw o gyfeillion henry richard yn ei edmygu'n fawr am ei waith a'i safiad dros heddwch parhaol a byd-eang, ac fel arwydd o'u hedmygedd derbyniodd rodd o bymtheg cant o bunnoedd, ynghyd â beibl.

Roedden nhw dan yr argraff fod y trydanwyr caredig yn gosod goleuadau parhaol yn y ganolfan, er mwyn caniata/ u i'w gwaith fynd yn ei flaen drwy'r nos.

Er bod y mudiad cymdeithasau tai yng Nghymru wedi ehangu, mae eu cyfraniad hwy i ddarparu cartrefi parhaol ar gyfer menywod a phlant sy'n ymadael â llochesau yn amrywio'n fawr iawn.

Llanio oedd eu canolbwynt yn y cyffiniau ­ yr oedd yn wersyll parhaol ac ef oedd yr unig sefydliad Rhufeinig yn y sir.

Y mae'r darlun o Ardd Eden yn ddarlun parhaol o dwf gwybodaeth; y mae'r dehongliadau amrywiol o Hamlet yn dangos tueddiadau cynhyrchwyr o gyfnod arbennig; y mae llun Beckett o Estragon a Vladimir yn aros tan y goeden yn ddarlun o gyflwr o golli ffydd y Pumdegau, ond mae o hefyd yn ddarlun o gyflwr o ddiffyg nod sy'n barhaol ddiddorol.

Cysylltid hwnnw â rhir ei gŵr, sef etifedd Nannau, i greu undod parhaol a nerthol.

Coffa da am y dispatch riders, Willie Owen (aelod parhaol o'r staff) a John Williams o'r Blaenau (rhan-amser) yn gwneud siwrneiau epig yn rheolaidd ar eu beiciau modur.

Mae gan y grwp ddawn anhygoel, ac ‘rydw i'n parhau i synnu at y ddawn arbennig honno, sef eu gallu parhaol i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon byr, bachog a syml.

'Roedd ffilm wedi rhoi rhyfel y Boeriaid ar gof a chadw ond 'roedd ar fin creu cofnod parhaol o un o erchyllterau mwyaf yr ugeinfed ganrif.

Ac fel rhan o'n defnydd parhaol o sêr radio ar deledu cyflwynwyd Frank Hennessy mewn arddull AmeriCelt yn y rhaglen ddifyr Way Out West.

Mae'r planhigion parhaol yn gorfod dewis yr amrywiol ffyrdd e.e.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau y derbyniwyd cwynion parhaol am ymddygiad y tenant.

Y broblem fwyaf i'r rhai sy'n sefyll lefel 'O' ac 'A' (ar wahan i gofio'r dyfyniadau) yw'r ymchwil am atebion syml, parhaol i waith Gwenlyn Parry.

Yn yr anobaith parhaol hwnnw y magwyd cefnogaeth i Saddam Hussein.

Arddull ystwyth yw yn anad dim a'i hystwythder yn galluogi'r awdur i ddangos profiad dyn fel symudiad parhaus, rhwng elfennau sydd yn parhaol ymdorri ac yn cyd-wau.

Pan ddechreuodd Seasons roedd Twi yn dioddef yr oerfel ar glaw ar strydoedd Caerdydd; erbyn y diwedd cynigiwyd cartref parhaol iddo gan wrandäwr hael.