Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parhaus

parhaus

Aflawen, fel yfed cymysgedd o'u dewis ddiodydd, seidr a llaeth enwyn, fyddai deuawd parhaus gan yr yfwyr cedyrn hyn.

Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.

Camodd Carol oddi wrth y ffôn, ond daliodd i syllu arno an anwybyddu cwestiynau parhaus Owain a'r ffordd yr oedd Guto'n tynnu godre ei sgert.

Deilliai'r achosion Gwyddelig fynychaf o gwerylon yn ymwneud â thir a deiliadaeth, neu drais a gyflawnid yn ystod cynhenna parhaus, weithiau dros genedlaethau lawer, rhwng dau deulu.

Fel hyn ceir yr argraff o annoethineb a difrawder parhaus dyn ochr yn ochr ag amynedd a dyfalbarhad parhaus Duw.

Nodwyd yn Adran 3 rai ystadegau sy'n dangos lleihad parhaus yn yr ardaloedd lle mae 70% neu fwy o'r trigolion yn gallu siarad Cymraeg.

Dengys y ddedfryd a dderbyniodd David Phillips a John Smith anghysondeb parhaus y gosb a fu am gyflawni troseddau cyffelyb, gan fod rheithgorau a barnwyr fel ei gilydd yn ystyried y gyfraith yn rhy llym ac felly yn gyndyn i weithredu ei holl rym.

Y mae rhan sy'n cyfresu dymuniadau y gwyr sy'n awchu am naill ai ddoethineb neu wybodaeth neu ieuenctid parhaus neu arian.

Unwaith eto mae'r cyfartaledd yn syndod o uchel o gofio'r son parhaus am dlodi addysgol Cymru yn ystod y ganrif.

Effaith hyn fydd ehangu a dyfnhau ei swyddogaeth gysylltiol, fel y llunnir adroddiad blynyddol sy'n dangos y modd y dyrennir cyllid, i wahanol swyddogaethau'r Grwp, fel y gall asesu'r pwysigrwydd a roddir i faterion yr amgylchedd, mewn perthynas â galw parhaus cymdeithas am fwynau, a mabwysiadu côd arfaethedig yr Adran ar ymarfer da.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Yn y rhaglen hon y mae deg o bobl syn byw gydai gilydd dan yr un to yng ngolwg parhaus camerau teledu hyd yn oed pan fyddo nhw yn y ty bach a than y gawod.

Maen nhw'n rhan o'r gymdeithas, nid yn rhyw fodau ar wahan sy'n hawlio gofal a maldod parhaus.

Dyma fater a grybwyllwyd yn barod, ac un sy'n fyrdwn parhaus trwy rifynnau Tir Newydd.

Gwell gan Cullmann beidio â sôn am Iesu fel 'Selot' ond dywed fod ei holl weinidogaeth mewn cysylltiad parhaus â Selotiaeth, mai hon oedd cefndir ei anturiaeth ac mai fel Selot y cafodd ei ddienyddio.

Roedden nhw'n fwy tebygol o fod wedi dioddef camdrin parhaus drwy'u plentyndod tra ond yn achlysurol yr oedd bechgyn yn cael eu camdrin.

Fodd bynnag, mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg a'n cymunedau ar drothwy'r Mileniwm nesaf yn un dwfn yn sgil gostyngiad parhaus yng nghanran siaradwyr Cymraeg ein cymunedau.

Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf o sêls parhaus aeth yr arfer o fargeinio fel hyn allan o ffasiwn.

Fel un 'a faged yn nhraddodiadau'r Hen Radicaliaeth Gymreig', chwedl yntau mewn man arall, ni allai Gruffydd dalu gwrogaeth ond i draddodiad Anghydffurfiol a ganiatâi wrthryfel parhaus yn erbyn pob awdurdod.

Dywed fod pobl denau, ar y llaw arall, yn llawn tyndra ac anniddigrwydd parhaus syn ei gwneud yn amhosib bron iddyn nhw ymlacio.

Os yw'r niwed gyfryw fel bod gofyn i'r aelod o'r staff gael cymorth a/ neu sylw parhaus yna fe fydd yr aelod uchaf o'r staff sydd ar gael yn penderfynu p'un ai i drefnu cludiant neu alw am ambiwlans.

Ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Betsey, i ffwrdd ag ef ar daith garu ddiflino, bicare/ sg, a fyddai'n darllen fel dychan ar y nofel serch Victoraidd yng Nghymru oni bai am y protestio parhaus fod y cwbl er lles moesol ei gynulleidfa, yn enwedig y rheini a oedd yn tueddu at y fath ymddygiad.

Arddull ystwyth yw yn anad dim a'i hystwythder yn galluogi'r awdur i ddangos profiad dyn fel symudiad parhaus, rhwng elfennau sydd yn parhaol ymdorri ac yn cyd-wau.