Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.
Felly, gyda parole y mae'n rhaid dechrau astudio iaith, gyda'r arwydd ieithyddol yn cynnwys (a) y signifie:y gwrthrych a ddynodir gan yr olyniad ffonolegol, a (b) y signifiant: y syniad a sylweddolir yn la parole gan seiniau, ystyron, cyfeiriadaeth.
Dyma ddychwelyd at syniadau Saussure am langue (competence) a parole (performance).