Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.
Collai'r blaten dipyn o'i gwres yn y broses, a gwaith y gweithiwr ffwrnais oedd dychwelyd y blaten i'r ffwrnais ar ôl pob part, a'i phoethi eto ar gyfer y part nesaf.
Gelwid y broses o gynhyrchu'r platiau yn dwymad, ac yr oedd yn rhaid rowlo'r platiau mewn pum part fel rheol, y tew (sef y barrau haearn tew), y senglau, y dyblau, y pedwarau a'r wythau.