Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

parthed

parthed

Canlyniad hynny oedd i athrawon a phrifathrawon ofni mabwysiadu polisi cryf parthed y Gymraeg gan iddynt gredu na fyddai ganddynt gefnogaeth yr awdurdod.

Trafferthion parthed y Gadair ddigwyddodd yn y cyfarfod blynyddol yn ddiweddar.

Parthed Huw Huws, a oedd yn fwytawr harti a naturiol, ofnwn fod trychineb yn anocheladwy.

Gadawaf bopeth heddiw, a chyfennir y pynciau eraill mewn rhifynnau eraill hyd y Gynhadledd, a cheir penderfynu yno parthed gwasanaeth y "Gornel", neu arall, ar ôl hynny.

Daeth Symons i'r casgliad, parthed siroedd Brycheiniog, Ceredigion a Maesyfed, mai isel iawn oedd safon moesau.

Tynnwyd sylw y llynedd at y cwynion a dderbyniwyd parthed methiant rhai awdurdodau cynllunio i ufuddhau i bolisi%au cynllunio a chwynion bod rhai penderfyniadau cynllunio yn wrthnysig.

Ei gasgliad penagored oedd: 'nid oes dim pendant iawn yn ymgynnig i mi parthed oed yr englynion'.

(b) Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol i ddefnyddio'i ddoethineb parthed cyfarwyddiadau ar arwyddion (ar wahân i enwau'r strydoedd).

Gan wybod fod distawrwydd yn andwyol i gerfiwr nerfus, ceisiais ailgychwyn ymgom gyffredinol trwy wneuthur sylw edmygol parthed darlun o General Buller a oedd yn hongian ar y pared gyferbyn.

Er gwaethaf hyn i gyd, mae lle i gredu fod ein cymdeithas orllewinol yn wynebu gwir sialens parthed ei pherthynas ag adnoddau'r blaned a'r syniad o dwf economaidd diderfyn ar draul adnoddau diddiwedd.

Cylchgrawn Eglwys Seilo Caernarfon Er i ni gael blwyddyn ddigon diflas ar y cyfan o ran tywydd, ac er y bu achwyn yma ac acw parthed y sefyllfa wleidyddol ac economaidd fregys o fewn ein gwlad ac yn y byd tu allan, nid dyna'r stori i gyd.