Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pas

pas

Aethai unwaith yn yr hanner cyntaf, ac ar ôl y gôl gosb a chael pas Moon o ryc, gwelodd ei gyfle a gwibio trwy'r bwlch i sgorio ar y chwith.

Hyd yma, mae trefnu cyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg wedi cael ei weld fel faux pas gan y bobl sy'n gwybod, ond rhaid derbyn bod rhai elfennau yn niwylliant dwyieithog y Cynulliad yn mynd i fod yn newydd i ni hefyd.

Blêr a gobeithiol oedd hi wedyn ond mi ddangosodd Earnshaw frwdfrydedd, dyfalbarhad a dewrder i erlid pas obeithiol.

Mae'r gyrrwr yn tosturio drosti ar y fath noson ac yn cynnig pas iddi - hithau'n derbyn gan eistedd yn y sedd ôl a dweud dim ond cyfeiriad pen ei thaith.

Oherwydd i rywun golli'r lluniau i'w gludo ar y pas i'r lifft sgio rhaid aros am ddwy awr.

Rhwydodd Jason Bowen wedi o leia 12 pas gan yr ymwelwyr - Leo Fortune-West yn rhoi'r bas ola iddo.

Pas hyfryd Darren Ferguson yn rhyddhau Carlos Edwards ac mi orffennodd o'n gampus.

Pas gan Darren Ferguson i Kevin Russell a pheniad syml i Craig Faulconbridge heibio Jason Jones.

Dangosodd wyth Llanelli y gallent hwythau hefyd hyrddio'n effeithiol ar ôl sgrym, ac ennill ryc, a defnyddio'r meddiant pan ddaeth Luc Evans i mewn i roi pas wych i Andrew Morgan, yr asgellwr de, a chwaraeodd yn lle Ieuan Evans anafus.

O fewn eiliade i ddechre'r ail hanner, bylchodd Roy Bergiers drwy amddiffyn Montreal, a hanner can llath o gae o'i flaen, a finne'n rhedeg nerth 'y nhraed wrth ei ochor yn barod i dderbyn pas pe bai angen.

Ac y mae'n ddirgelwch llwyr pam a sut y cafodd Edgar, Pas Candryll, docyn Equity.