Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pechadur

pechadur

Pechadur yw Rhodri Morgan.

Fodd bynnag, er y cyfan a allwn ddweud amdano sy'n gadarnhaol, mae'n parhau yn bechadur - pechadur a gyfiawnhawyd gerbron y nef - ond un sy'n llawn amherffeithrwydd.

a) y neges broffwydol am faddeuant cwbl rad i'r pechadur edifeiriol;

b) Y syniad offeiriadol am ddiymadferthedd dyn yn wyneb pechod, ac felly'r angen am i Dduw fynd allan i chwilio am y pechadur sydd heb edifarhau, fel yr â'r bugail i'r anialwch i geisio'r un ddafad golledig;

Felly, er cymaint pwyslais Williams ar hyd ei oes ar uniongrededd mewn athrawiaeth, yr oedd yn sensitif iawn i'r angen am ffydd fywiol yn y galon, y ffydd a oedd yn sicrhau cyfiawnder Duw fel mantell i guddio noethni moesol y pechadur.

A thestun ei orfoledd yw fod Iesu Grist wedi cymryd y bai am ein pechodau a marw'r farwolaeth yr oedd ef, y pechadur, yn ei haeddu.

A bydd ymateb Duw yn drugarog: bydd yn rhoddi maddeuant yn rhad am y pechodau mwyaf, os bydd y pechadur yn edifarhau a throi oddi wrth ei bechodau.

Un o brif golofnau ein ffydd yw mai pechadur yw dyn.

Eto ni allai ymesgusodi rhag y cyhuddiad ei fod yn cyflwyno pwyslais newydd, gan ddilyn Talsarn a Williams o'r Wern i fynnu nid yn unig ddigonolrwydd haniaethol yr Iawn ond hefyd lydanrwydd y porth a gallu pob pechadur i droi at yr Iachawdwr.

Gwelir pechod fel halogiad neu heintiad sy'n effeithio'r pechadur.

A thrôdd yr holl areithiau huawdl ac eneiniedig a glywswn ar "Natur Eglwys", yn dom ac yn golled i un pechadur arall.

(A bydded hysbys mai cyffredinoli ar bwys fy mhrofiad bach fy hun yr ydwyf i dim ond siarad dros y pechadur hwn yn unig yr ydwyf, dalier sylw.