Y prif gwestiwn oedd nid sut allai Duw, yn rhesymegol, lwyddo i ddod yn ddyn, ond sut allai dyn marwol ennill anfarwoldeb neu ddyn pechadurus gael ei gymodi â'r Duw sanctaidd?
Y mae'r angen am gymod rhwng Duw a dyn yn codi o gyflwr pechadurus dyn, a'i anallu hollol ddiymadferth i fedru gwneud dim o'i ran ei hun.
Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .